Yr amgylchedd

Gyda’n pencadlys yng Nghanolbarth Cymru a’r ffaith ein bod ni’n gweithredu ar draws rhywfaint o’r cefn gwlad a’r cymunedau mwyaf ysblennydd yng Nghymru, rydym yn ymwybodol iawn o’r amgylchedd rydym yn byw ac yn gweithio ynddo.

Fel cwmni, rydyn ni’n deall y gall popeth ac unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud gael effaith ar yr amgylchedd. Dyna pam rydym wedi datblygu ymrwymiad a pholisi i leihau unrhyw effaith o’r fath.

O ddefnyddio ynni i ailgylchu, rydym yn ystyried pob agwedd o’r busnes yn ofalus ac yn rheolaidd, ac yn defnyddio Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd fel meincnod.

Mae’r safon hon yn System Rheoli Amgylcheddol gydnabyddedig, sydd yn cael ei dyfarnu i sefydliadau i gydnabod eu gweithredoedd o ran deall, monitro a rheoli eu heffeithiau ar yr amgylchedd byd-eang.

Mae hyn yn cychwyn yn ein pencadlys, Tŷ Cambrian, yn y Trallwng, Powys. Er bod angen i ni ddefnyddio ynni i weithredu, o wresogi i oleuo, i bweru ein cyfrifiaduron personol a’n hoffer electronig, rydym yn ceisio lleihau hyn.

Polisi Amgylcheddol a Chynaliadwyedd 2021

Strategaeth Cynaliadwyedd 2022-25

Sut rydym yn gwneud hyn?

• Rydym wedi gosod goleuadau arbed ynni ar draws yr adeilad, i helpu i leihau’r defnydd o ynni ac allyriadau.

• Rydym wedi gosod paneli ffotofoltäig ar do’r adeilad i gynhyrchu ynni. Mae hwn yn cael ei roi yn ôl yn y Grid Cenedlaethol pan fydd ein defnydd yn isel neu yn ystod penwythnosau a gyda’r nos.

• Rydym wedi gosod goleuadau LED yn ein maes parcio, sydd nid yn unig yn lleihau’r defnydd o ynni ac allyriadau, ond sy’n lleihau llygredd golau hefyd.

• Mae’n rhaid i’n tîm deithio ar hyd a lled Cymru, mewn car yn bennaf. Rydym wedi ceisio defnyddio cerbydau allyriadau isel bob amser. Ym mis Ionawr 2018, fe ddechreuom fuddsoddi mewn fflyd newydd o geir hybrid Toyota Yaris, un o’r rhai mwyaf effeithlon o ran ynni ar y farchnad. Rydym wedi buddsoddi mewn 12 cerbyd fel hyn ers dechrau’r flwyddyn.

• Ail-ddefnyddio deunydd ysgrifennu, ffolderau ac eitemau eraill trwy’r busnes. Nid yw’r ffaith ei fod wedi’i ddefnyddio unwaith yn golygu nad yw staff eraill yn gallu ei ail-ddefnyddio. Mae hyn yn cadw costau i lawr ac yn sicrhau hefyd, bod gwastraff diangen yn cael ei leihau.