Mae dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr disglair o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, sef dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau.
Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.
Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes hyfforddeiaethau a phrentisiaethau.
Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Llongyfarchwyd pawb sydd ar y rhestr fer gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates a diolchodd i’r holl ddysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr a ymgeisiodd am y gwobrau eleni.
“Mae rhaglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.
“Rwy’n arbennig o falch o weld tri ar restr fer categori Doniau’r Dyfodol sy’n cydnabod cynnydd personol prentis presennol eithriadol a’r effaith y mae eisoes yn ei chael ar berfformiad y busnes.
“Gallwn ddisgwyl noson gyffrous yn y seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar 24 Hydref.”
Wrth longyfarch pawb ar y rhestrau byrion, dywedodd Connie Dixon, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru: “Er mwyn i economi Cymru ffynnu yn y dyfodol, mae’n rhaid i’n pobl ifanc ni ddatblygu’r sgiliau cywir, a mwynhau cefnogaeth a hyfforddiant addas yn y gweithle.”
“Mae prentisiaethau’n chwarae rhan hanfodol yn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw ac maent hefyd yn llwybr gwych i’w ddilyn i’r gweithle. Rydym ni yn Openreach yn rhoi gwerth mawr ar recriwtio prentisiaid newydd bob blwyddyn i swyddi amrywiol ac rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad sylweddol i’r busnes – o ran sgiliau newydd, profiadau newydd a syniadau newydd.
“Rydym wrth ein bodd o fod yn gysylltiedig â’r gwobrau eleni ac yn dymuno’n dda i bawb ar y rhestrau byrion.”
Mae categori Doniau’r Dyfodol yn rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ac sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad y cyflogwr’.’
Ar restr fer y categori hwn mae Esta Lewis o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy’n dysgu gyda Choleg Caerdydd a’r Fro; Cheradine Jones o Grŵp Pobl, Abertawe, sy’n dysgu gyda Choleg Gŵyr Abertawe a Joe Peskett o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Casnewydd, sy’n dysgu gydag ALS Training.
Yn y categori Cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau) – Ymgysylltu a Lefel 1. Ar y rhestr fer mae: Molly Jones o Ben-arth, sy’n dysgu gyda The People Business-Wales Ltd; Matthew Lloyd Jones o Fwcle, sy’n dysgu gyda Choleg Cambria; Carrie-Ann Anthony o Aberdâr, sy’n dysgu gyda PeoplePlus Cymru; Kane Laver McMahon o’r Barri, sy’n dysgu gyda The People Business-Wales Ltd a Marcio Paixo a Shannon Harding, yn ddau o Ferthyr Tudful, a’r ddau’n dysgu gyda PeoplePlus Cymru.
Rhoddir gwobrau i brentisiaid ar dair lefel: Yn rownd derfynol Prentis Sylfaen y Flwyddyn mae: Andrew Bennett, o Bryson Recycling, Abergele, dysgwr gyda Hyfforddiant Cambrian; Phoebe McLavy o Goleg Sir Gâr, Caerfyrddin a Gavin Williams o Rubens Male Grooming salon, Llanfair-pwll, sy’n dysgu gyda Busnes@LlandrilloMenai.
Yn rownd derfynol Prentis y Flwyddyn mae: Rebekah Chatfield o Brød (The Danish Bakery Ltd), Pontcanna, Caerdydd, sy’n dysgu gyda Hyfforddiant Cambrian; Shane Ash o Tata Steel Strip Products UK, Llan-wern, Casnewydd, sy’n dysgu gyda Choleg Gwent a Phrifysgol De Cymru, a Katie Parry o KT’s Salon Ladies & Gents, Bangor, sy’n dysgu gyda Busnes@LlandrilloMenai.
Yn rownd derfynol Prentis Uwch y Flwyddyn mae: Melanie Davis o Cymunedau am Waith, Conwy, sy’n dysgu gyda Busnes@LlandrilloMenai; Jamie Stenhoff o Airbus, Brychdyn, sy’n dysgu gyda Coleg Cambria, a Lee Price o Raeadr Gwy, uwch-swyddog ansawdd a safonau amgylcheddol Cyngor Sir Powys, sy’n dysgu gyda Hyfforddiant Cambrian.
Bydd cyflogwyr llwyddiannus yn cystadlu am bedair gwobr. Cyflogwr Bach y Flwyddyn (hyd at 49 o weithwyr): Freight Logistics Solutions, Pontypŵl, y darperir eu hyfforddiant gan Hyfforddiant Torfaen, a Brød (The Danish Bakery Ltd), Pontcanna, Caerdydd, a Gwesty’r Harbwr, Aberaeron, y darperir hyfforddiant y ddau ohonynt gan Hyfforddiant Cambrian.
Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50-249 o weithwyr): Radnor Hills, Trefyclo, y darperir eu hyfforddiant gan Hyfforddiant Cambrian; Ensinger, Tonyrefail, y darperir eu hyfforddiant gan TSW Training, ac ITV Cymru Wales, Caerdydd, y darperir eu hyfforddiant gan Sgil Cymru.
Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250-4,999 o weithwyr): Legal and General Investment Management, Caerdydd y darperir eu hyfforddiant gan TSW Training, ac Aspire Blaenau Gwent, Glynebwy a British Airways Maintenance Cardiff, y Rhŵs, y darperir hyfforddiant y ddau ohonynt gan Goleg y Cymoedd.
Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5,000+): Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Treforys, y darperir eu hyfforddiant gan Grŵp Colegau NPTC a Choleg Gŵyr, Abertawe, a Lloyds Banking Group, Casnewydd, y darperir eu hyfforddiant gan Goleg Caerdydd a’r Fro.
Mae dwy wobr ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Lara Baldwin o Gaerdydd sy’n gweithio i ACT Limited; Hayley Lewis o Hwlffordd sy’n gweithio i TSW Training a Melissa O’Connor o Gaerdydd sy’n gweithio i Portal Training. Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Lynn Matthews o Gorseinon sy’n gweithio i PeoplePlus Cymru, a Rachel Lewis o Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n gweithio i Goleg Pen-y-bont.