Y Gymraeg ar gyfer prentis ac fel sgil yn y Gweithle

Fel prentis yn hyfforddi yng Nghymru, ni fu’r cyfleodd i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg erioed yn well.

Bellach mae gan y llwyfan dysgu City and Guilds, a ddefnyddiwn yn ein gwaith hyfforddi ar gyfer portffolios ein dysgwyr, adnodd cyfieithu sy’n eich galluogi i weld eich cwrs mewn unrhyw iaith o’ch dewis, ac rwy’n defnyddio hwn gyda fy nysgwyr sydd wedi dewis gwneud eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir hefyd gwneud defnydd o’r adnodd cyfieithu ar gyfer ateb y cwestiynau gwybodaeth yn uniongyrchol i’ch portffolio.

Mae dau o fy nysgwyr Catrin Howells ac Iestyn Morgan yn cyflwyno eu gwaith cwrs yn y Gymraeg. Mae’r ddau ohonyn nhw’n gweithio yn yr Harbwrfeistr, enghraifft wych o Sefydliad Lletygarwch sy’n rhoi’r Gymraeg ar flaen eu busnes.

Mae gallu siarad Cymraeg yn sgil nad yw llawer yn ei gwerthfawrogi. Gall ddarparu cyfleoedd i weithio yng Nghymru lle mae’r iaith yn bwysig ac yn rhan annatod o lawer o fusnesau. Mae’n iaith sy’n fyw ac yn gyffrous ac fel Swyddog Hyfforddi rwy’n annog hyd yn oed fy siaradwyr di Gymraeg i geisio dysgu cyfarchion Cymraeg sylfaenol yn enwedig pan fyddant yn gweithio yn y Sector Lletygarwch.

Mae Caroline Colman, Rheolwraig Housekeeping yng Ngwesty’r Metropole yn enghraifft wych o ddysgwraig sydd wedi cofleidio’r her ac sydd bellach yn gallu siarad â mi yn y Gymraeg o ganlyniad i’r cwrs ar-lein ‘Dysgu sut i ddweud rhywbeth yn Gymraeg’: https://www.saysomethingin.com/welsh

A wnaethoch chi ystyried beth yw manteision gwneud eich cwrs trwy gyfrwn y Gymraeg, neu hyd yn oed y manteision o allu siarad Cymraeg yn y gweithle? Dyma rai pobl yn rhannu eu barn ar hyn:

Nod Llywodraethau Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Rwyf yn optimistaidd iawn ynglŷn â hyn. Cael byw mewn gwlad sy’n falch o’i hiaith a’i diwylliant. https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-04/cymraeg-2050-miliwn-o-siaradwyr-cynllun-gweithredu-2019-i-2020.pdf

Felly dyma fy her i bob un o’n dysgwyr gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian – Ymunwch â ni i gefnogi Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru a gadewch i ni ddangos Croeso Cymraeg go iawn i ymwelwyr i Gymru.

Ysgrifennwyd gan ein Swyddog Hyfforddi Lletygarwch , Hazel Thomas.  

I gael mwy o wybodaeth am ein Prentisiaethau cysylltwch â Chwmni Hyfforddi Cambrian yn cambriantraining.com neu Ffôn: 01938 555893.