Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ymroi i weithredu’r Gymraeg. Mae gennym hyrwyddwr dwyieithog ymroddedig sy’n cydlynu ac yn cefnogi’n swyddogion Hyfforddiant i hyrwyddo hyfforddiant ac asesu dwyieithog ar draws holl feysydd dysgu’r busnes.

Adolygir ein cynllun iaith Gymraeg yn flynyddol ac yn unol ag Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg.

Bydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn parhau i gynnig hyfforddiant safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn bodloni anghenion y dysgwyr sy’n eu galluogi i ddefnyddio’u dewis iaith.

Y Cynllun Iaith Gymraeg

Cymeradwywyd ein Cynllun Iaith Gymraeg gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 27 Ionawr 2011 ac mae bellach yn rhan annatod o ffocws y cwmni ar draws pob maes.

 Cynllun Iaith Gymraeg 2018