Y Gymraeg a Ninnau
Rydym wedi ymrwymo i weithredu’r Gymraeg a darparu dysgu.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ymroi i weithredu’r Gymraeg. Mae gennym hyrwyddwr dwyieithog ymroddedig sy’n cydlynu ac yn cefnogi’n swyddogion Hyfforddiant i hyrwyddo hyfforddiant ac asesu dwyieithog ar draws holl feysydd dysgu’r busnes.
Adolygir ein cynllun iaith Gymraeg yn flynyddol ac yn unol ag Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg.
Bydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn parhau i gynnig hyfforddiant safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn bodloni anghenion y dysgwyr sy’n eu galluogi i ddefnyddio’u dewis iaith.
Cymeradwywyd ein Cynllun Iaith Gymraeg gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 27 Ionawr 2011 ac mae bellach yn rhan annatod o ffocws y cwmni ar draws pob maes.
Taflen Rheoli Adnoddau Cynaliadwy