Daeth y cigydd ifanc dawnus, Matthew Edwards, yn agos iawn at y brig yn seremoni wobrwyo Dysgwr VQ y Flwyddyn Cymru ar Ddiwrnod VQ ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd.
Roedd Matthew, 22 oed, sy’n gweithio i S.A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, o blith chwech yn y rownd derfynol o bob cwr o Gymru a gafodd eu llongyfarch gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates.
Mae Diwrnod VQ yn ddathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru.
Mae llwybr dysgu Matthew wedi cynnwys cael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd yn y Swistir ym mis Medi ar ôl iddo ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru, a dod nesaf at y brig yng nghystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc Masnachwyr Cig a Bwyd y Ffederasiwn Cenedlaethol y llynedd.
Mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaen cyn hynny.
Ar ôl dechrau ei yrfa gyda swydd bob dydd Sadwrn yn Siop Fferm Swans, Treuddyn, Yr Wyddgrug, aeth ymlaen i weithio i Ddysgwr VQ y Flwyddyn ar gyfer Cymru’r llynedd, sef Tomi Jones, o Jones’ Butchers, Llangollen.
Ers ymuno â Steve Vaughan, mae wedi ennill y gystadleuaeth Gwneuthurwr Selsig Ifanc yn Sioe ar Daith Ranbarthol Bpex y llynedd a bydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth pencampwr y pencampwyr yn y digwyddiad eleni yn Newark ym mis Hydref.
“Ers dechrau fy hyfforddiant, rydw i wedi mynd o fod yn agos at y brig i ennill y gystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru ac wedi dod nesaf at y brig yng nghystadleuaeth y Prif Gigydd Ifanc, sy’n dangos y cynnydd rydw i wedi’i wneud,” meddai Matthew. ‘Rydw i wedi datblygu fy sgiliau trwy ddysgu wrth fy ngwaith a thrwy gael cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol.”
Dywedodd Mr Vaughan: “Mae Matthew’n dangos uchelgais a phenderfyniad sy’n amlwg yn ei ddull cadarnhaol o droi at ei gymwysterau, ei ysfa i gystadlu a’i frwdfrydedd i ddysgu.”
Enillydd Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn oedd y perchennog meithrinfa yn San Clêr, Emma Thomas.
Roedd y gwobrau’n cyd-daro gyda chyhoeddi dau adroddiad sgiliau newydd. Datgelodd Sefydliad yr Ymchwil Polisi Cyhoeddus, gan fod 3.6 miliwn o swyddi gwag medrus yn mynd i ddod i’r amlwg ledled y DU dros y 10 mlynedd nesaf, ni fu erioed cymaint o alw am gymwysterau galwedigaethol.
Yn ogystal, mae adroddiad yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2013 Cymru’n darparu tystiolaeth fod economi Cymru’n symud tuag at adferiad ac yn amlygu’r sgiliau y mae eu hangen ar gyflogwyr ledled Cymru ac o fewn sectorau a galwedigaethau.
Llongyfarchodd Mr Skates, a gyflwynodd y Gwobrau VQ, yr holl bobl yn y rownd derfynol am ragori yn eu taith ddysgu alwedigaethol. Galwodd ar gyflogwyr ac unigolion i gymryd camau cyfrifol o ran sgiliau yn dilyn canfyddiadau’r ddau adroddiad.
“Fis nesaf, byddwn yn lansio’n Cynllun Gweithredu Sgiliau, sy’n gosod y camau y bwriadwn eu cymryd i ddatblygu sgiliau gweithlu Cymru a chynyddu lefelau’r buddsoddiad mewn sgiliau,” meddai.
“Mae Diwrnod VQ yn ein hatgoffa ni faint o gyflogwyr a dysgwyr Cymru sydd eisoes yn teithio’r filltir ychwanegol o ran datblygu sgiliau. Mae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis gyrfa.
“Nid yw hi’n fwriad gennym bregethu i’r sawl sydd wedi’u hargyhoeddi, ond os bydd economi Cymru’n parhau i dyfu, rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru’n cydweithio ac yn buddsoddi yn y sgiliau iawn er mwyn llwyddo.”
Mae Diwrnod VQ yn cefnogi’r uchelgais y dylai cymwysterau galwedigaethol gyflawni parch cydradd ochr yn ochr â llwybrau addysgol eraill.
Daeth darparwyr dysgu ledled Cymru at ei gilydd i ddathlu Diwrnod VQ a chysylltu â dysgwyr o bob oedran trwy ddarparu sesiynau blasu rhyngweithiol mewn ystod o sgiliau ar Gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd a Champws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria.
Cydlynir Diwrnod VQ a Gwobrau VQ yng Nghymru gan GolegauCymru a Ffederasiwn Cenedlaethol Hyfforddiant Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac fe’i hariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Duncan Foulkes, yr ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.