Top tips ar gyfer noson well o gwsg

Cysu'n well Sleeptember

Mae’n Sleeptember ac mae ein Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl a Lles yn rhannu rhai o’u cynghorion gwych ar sut i gael noson well o gwsg. Pan fyddwn yn meddwl am les ac iechyd meddwl, rydym yn aml yn anwybyddu effaith patrymau cwsg afreolaidd a sut mae’n effeithio arnom. Mae’n debyg y byddai llawer ohonom yn wynebu problemau cysgu ar ryw adeg yn ein bywydau, gyda dros 1/4 o oedolion 45+ oed a 14% o bobl dan 24 oed yn cysgu’n wael.

Pam mae cwsg mor bwysig i’n hiechyd felly? Mae astudiaethau’n dangos bod nifer o fanteision iechyd i batrymau cysgu cadarnhaol. Mae rhai o’r manteision yn cynnwys, rheoli pwysau gwell, system imiwnedd iach, calon gryfach, gwell canolbwyntio, cof gwell a llawer mwy! Dyma rai o’r pethau y gall eich helpu i gysgu’n gyflymach ac yn well:

  • Cynnal hylendid cysgu da

Beth yn union yw hylendid cysgu? Yn y bôn, mae hylendid cysgu yn golygu cadw trefn reolaidd gyda’r nos. Er enghraifft, cadw amser penodol bob nos i ddechrau ymlacio am y noson, mynd i gysgu a chodi ar adegau penodol. Mae’r gallu i gadw at drefn fel hyn drwy gydol yr wythnos a ac ar y penwythnosau, yn gallu gwella eich cwsg.

  • Cysgu yn dechrau cyn mynd i’r gwely

Er bod cynnal hylendid cysgu da yn bwysig, mae hefyd yn bwysig cofio bod pethau rydych chi’n eu gwneud trwy gydol y dydd hefyd yn effeithio ar eich cwsg. Gall defnyddio’ch ffôn neu ddyfeisiau electronig eraill o leiaf awr cyn mynd i’r gwely effeithio ar eich gallu i syrthio i gysgu yn y nos. Rydym yn awgrymu darllen neu wrando ar bodlediad cyn mynd i’r gwely i’ch helpu i gysgu’n haws. Mae deunyddiau ysgogi hefyd yn achos cyffredin o broblemau cysgu, gall osgoi nicotin, caffein neu alcohol wella eich gallu i syrthio i gysgu.

  • Peidiwch â’i orfodi!

Os ydych chi’n canfod eich bod chi’n dal i fod yn aflonydd yn y gwely, peidiwch â cheisio ei orfodi. Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i dawelu eich aflonyddwch yn y nos. Er enghraifft, codwch o’r gwely a gwnewch rywbeth i ymlacio mewn lle cyfforddus, fel darllen neu wrando ar gerddoriaeth.

  • Cadw’n actif 

Ffordd wych arall o sicrhau bod eich corff a’ch meddwl yn barod i gysgu yw cadw’ch hun yn egnïol trwy gydol y dydd. Gall cadw’n heini hefyd wella eich iechyd meddwl, drwy leddfu straen a phryderon a rhyddhau endorffinau. Bydd hyn i gyd yn eich helpu i gadw’n haws yn y nos!

  • Creu’r amgylchedd cywir

Gwnewch yn siŵr mai eich ystafell yw’r tymheredd cywir i chi ac wedi’i hawyru’n dda, gan fod ystafell oer fel arfer yn lle well i gysgu nag un poeth neu frwd. Mae’n well gna rai pobl i warae cerddoriaeth er mwyn cysgu, megis synau amgylchynol fel glawiad, cerddoriaeth ysgafn neu sŵn gwyn. Gall sicrhau bod y goleuadau’n ddigon tywyll trwy brynu bleindiau neu lenni effeithiol hefyd yn helpu i gyfrannu at greu amgylchedd gwell.

Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, mae’r awgrymiadau gwych hyn yn ffordd o ddechrau gwella’ch nosweithiau. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cofio bod anhawster cysgu yn aml yn ddangosydd cynnar o broblemau iechyd meddwl, os ydych yn cael trafferth cysgu neu eich bod yn gadw patrymau cysgu annormal yn rheolaidd yna ystyriwch gysylltu â’ch meddyg am gymorth ychwanegol.

Am fwy o wybodaeth am Sleeptember, ewch i’r Sleep Charity.

Mae’r Sleep Charity hefyd yn cynnig llinell gymorth sy’n cael ei rhedeg gan dîm o gynghorwyr cwsg hyfforddedig arbenigol a all helpu i drafod eich problemau a chynnig strategaethau ymarferol ac argymell gwasanaethau a allai helpu. I gysylltu â 03303530541.