Capsiwn y llun: Tîm rheoli adnoddau cynaliadwy Hyfforddiant Cambrian â’r wobr Rhagoriaeth mewn Arloesedd (o’r chwith) Amy Edwards, Beverly Treadwell, Heather Martin, Jay Syrett-Judd, Sue Packer a Stephen Dunn.
Mae tîm rheoli adnoddau cynaliadwy’r darparwr dysgu Cymru gyfan, Hyfforddiant Cambrian, wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth mewn Arloesedd.
Cyflwynwyd y wobr i nodi’r pen-blwydd WAMITAB yn 30, elusen a chorff dyfarnu cenedlaethol sy’n datblygu cymwysterau ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes rheoli adnoddau ac ailgylchu, glanhau, rheoli cyfleusterau a gorfodi rheolau parcio.
“Mae Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn ganolfan WAMITAB gymeradwy ers 2014. Yn ystod y cyfnod hwnnw, maen nhw wedi cynyddu eu cronfa aseswyr a thalent IQA yn sylweddol, gan roi’r gallu iddyn nhw gynnig ystod eang o gymwysterau WAMITAB hyd safonau manwl” meddai’r dyfyniad o’r wobr.
“Mae Hyfforddiant Cambrian wedi herio eu hunain a WAMITAB yn gyson i gynnig Datblygiad Proffesiynol Parhaus perthnasol ac arbenigol i ddarparwyr cymwysterau, gan gydnabod bod rhagoriaeth yn lledaenu rhagoriaeth. Gyda’r wobr hon, rydym yn cydnabod Rhagoriaeth mewn Arloesedd y ganolfan. ”
Dywedodd Katie Cockburn, cyfarwyddwr cymwysterau a safonau WAMITAB, fod enillwyr gwobrau wedi’u nodi ar ôl cynnal ymgynghoriadau manwl â bwrdd ymddiriedolwyr y sefydliad, y tîm sicrhau ansawdd allanol ac aelodau o staff a ddaeth i gysylltiad â chwmnïau ac unigolion sy’n darparu ei gymwysterau.
“Roedd gwobr Hyfforddiant Cambrian yn benodol am dyfu ei chronfa o Aseswyr a Aswirwyr Ansawdd Mewnol (IQAs), sy’n brin ar gyfer y maes arbenigol hwn o arbenigedd,” eglurodd.
“Mae cydymffurfio’n bwysig iawn, ond rydyn ni hefyd eisiau canolfannau sy’n mynd y filltir ychwanegol honno i wella eu prosesau a phrofiad y dysgwr yn barhaus. Mae’n rhaid i ni gynnig cymwysterau sy’n dal i fod eu hangen ar ddiwydiant.”
Dywedodd Heather Martin, Pennaeth Hyfforddiant Cambrian dros gynaliadwyedd a busnes: “Roedden ni i gyd wedi ein synnu braidd gan y wobr, oherwydd nad oedden ni’n gwybod ei bod yn digwydd. Mae’n braf bod gwaith caled tîm rheoli adnoddau cynaliadwy y cwmni wedi cael ei gydnabod â gwobr WAMITAB am Ragoriaeth mewn Arloesedd wrth ddarparu ar draws y rhwydwaith o ganolfannau.”
Mae Heather yn rheoli tîm o bump sy’n darparu cymwysterau rheoli adnoddau cynaliadwy o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru a Sir Benfro. Mae’r tîm hefyd yn awyddus i ehangu ei wasanaethau hyfforddi i Geredigion a Sir Gaerfyrddin.
Mae nifer o brentisiaid y tîm naill ai wedi ennill gwobrau cenedlaethol, neu wedi cael eu henwebu ar gyfer y rhain.
I gael mwy o wybodaeth am y cymwysterau rheoli adnoddau cynaliadwy y mae Hyfforddiant Cambrian yn eu darparu, anfonwch neges e-bost at Heather heather@cambriantraining.com neu ffoniwch 01938 555893.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.