Mae Rhaglen Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru wedi agor y drws i’r byd gwaith i Thomas Owen, sy’n 21 oed.

Ar ôl cwblhau lleoliad chwe mis Twf Swyddi Cymru gyda chwmni ailgylchu Mainetti yn Wrecsam, cynigiwyd swydd amser llawn iddo fel gweithiwr cynhyrchu ac mae bellach wedi dechrau prentisiaeth.

Yn ogystal â datblygu gyrfa werth chweil, mae Thomas wedi ennill gwobr Unigolyn Eithriadol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru gan ei ddarparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

thomas owen jobs growth wales mainetti

Mae Thomas, a ddisgrifiwyd fel gweithiwr caled, ymroddgar a dibynadwy, yn gweithio gyda thîm ailgylchu cardbord Mainetti. “Roedd hi’n wirioneddol anodd dod o hyd i waith cyflog amser llawn ac rwy’n ddiolchgar iawn fod Mainetti wedi rhoi cyfle i mi, meddai. “Trwy raglen Twf Swyddi Cymru, rydw i wedi dod o hyd i yrfa yn ogystal â llawer o ffrindiau newydd o bob math o gefndiroedd.”

thomas owen mainetti jobs growth wales

Roedd wedi cyflawni pum TGAU a chymhwyster TG lefel un yng Ngholeg Cambria cyn ymuno â Mainetti, sef cwmni a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol Cymru eleni yng nghategori Cyflogwr y Flwyddyn.

Dywedodd Mikolaj Pietrzyk, rheolwr safle Mainetti, fod Thomas yn cyflawni rôl bwysig wrth helpu ailgylchu blychau cardbord sy’n lleihau’r gwastraff a anfonir i’w dirlenwi. “Mae Mainetti’n gyson chwilio am ffyrdd o ehangu a thyfu a chwilio am gontractau newydd gydag adwerthwyr newydd,” ychwanegodd. “Mae pob dolen fach yn y gadwyn yn hollbwysig i lwyddiant y cwmni.

“Dyma’r tro cyntaf inni ddefnyddio rhaglen Twf Swyddi Cymru ac rydym yn wirioneddol falch â’i lwyddiant, ond cydnabyddwn fod hyn, i raddau helaeth, i’w briodoli i’r ychwanegiad gwych mae Thomas wedi bod i’n tîm.

mainetti jobs growth wales case study quote

“Pan ddaeth Thomas atom, roedd yn swil iawn ond mae wedi magu hyder yn raddol ac wedi cyflym ddod yn aelod poblogaidd o’n tîm. Mae Thomas yn hoffus ac yn cael ei barchu gan bawb, gan ddangos ei fod yn gallu cyd-dynnu gyda phawb. Mae’n bleser ei gael yn y gweithle.”

Llongyfarchodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian Thomas ar ennill gwobr Unigolyn Eithriadol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru a sicrhau’r swydd amser llawn gyda Mainetti.

thomas owen jobs growth wales mainetti

“Gweithiwn gyda rhai cyflogwyr a dysgwyr gwych ar hyd a lled Cymru wrth inni gyflawni ystod o raglenni prentisiaeth, sgiliau a hyfforddiant cyflogaeth ar ran Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Mae’r gwobrau’n dathlu cyflawniadau’r rheiny sydd wedi rhagori ar y disgwyliadau yn ystod eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad i’r rhaglenni hyfforddiant a sgiliau, sydd wedi dangos dull unigryw o droi at raglenni hyfforddiant a sgiliau, wedi dangos dull unigryw o hyfforddi a datblygu ac wedi dangos blaengaredd, menter, arloesedd a chreadigedd.”

Mae Twf Swyddi Cymru’n gyfle i gael profiad gwaith o chwe mis mewn swydd, sy’n talu’r isafswm cyflog cenedlaethol o leiaf. Gall pobl gydag anabledd neu sy’n wynebu rhwystrau eraill gael help a mentora ychwanegol tra byddant yn y swydd.

Er mwyn cymhwyso, rhaid bod yr ymgeiswyr rhwng 16 a 24 oed, yn byw yng Nghymru, yn ddi-waith, heb gwblhau chwe mis llawn mewn swydd wag gyda Twf Swyddi Cymru o’r blaen, heb gael eu cyfeirio at neu’n cymryd rhan yn y Rhaglen Waith neu’r Rhaglen Dewis Gwaith blaenorol, heb fod mewn addysg amser llawn a heb fod ar raglen dysgu seiliedig ar waith Llywodraeth Cymru.