Mae rhaglen brentisiaeth wrth wraidd datblygiad staff mewn cyrchfan a chanolfan gynadledda blaengar yng Nghymru sy’n cyflogi dros 1,000 aelod o staff.

Cenhadaeth fusnes y Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd yw meithrin ei ddoniau ei hun trwy fuddsoddi mewn Coleg Celtaidd mewnol a datblygu Llwybr Rheoli Doniau.

Mae prentisiaethau’n gyfrifol am greu gweithlu uchel ei gymhelliant, hyfforddedig ac uchelgeisiol lle mae’r sgiliau’n cyfateb i anghenion y cyrchfan.

celtic manor resort apprenticeships newport

Mae rhaglen brentisiaeth y cyrchfan pum seren wedi bod yn rhedeg ers naw blynedd ac mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn cyflwyno hyfforddiant yno am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw.

Mae’r cyrchfan wedi recriwtio 386 o brentisiaid dros y pum mlynedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae’n cyflogi 101 o fewn ystod o ddisgyblaethau ar hyd y busnes. Mae wedi ennill sawl clod sy’n gysylltiedig â’i raglen brentisiaeth, gan gynnwys Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng ngwobrau 2017 Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Gweithia’r darparwr hyfforddiant yn y Trallwng yn agos gyda’r cyrchfan i gyflawni fframweithiau prentisiaeth o lefel dau i bedwar mewn gwasanaethau lletygarwch, cynhyrchu bwyd a choginio, coginio celfydd, sgiliau trwyddedig a lletygarwch BIIAB, rheoli lletygarwch a gwasanaethau glanhau a chymorth.

Cynigia’r Celtic Manor gyfanswm o 17 fframwaith gwahanol ac mae wedi lansio Rhaglen Brentisiaeth Gwesty a Lletygarwch o ddwy flynedd sy’n recriwtio rhwng 10 ac 20 prentis bedair gwaith y flwyddyn. Bydd y rhaglen hon yn helpu cyflenwi staff ar gyfer Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru newydd y mae disgwyl iddi agor yn y cyrchfan yn 2019.

“Gallech ddweud bod y berthynas rhwng Cwmni Hyfforddiant Cambrian a’r Celtic Manor Resort wedi’i chreu yn y gegin ac wedi datblygu’n wahanol feysydd o’r busnes,” meddai Tracy Israel, pennaeth dysgu a datblygu’r Celtic Manor Resort.

celtic manor resort quote

“Cychwynnodd y berthynas gyda rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian a’i ymwneud gyda Thîm Coginiol Cymru. Yn sicr, byddwn yn eu cyfrif nhw fel ein prif ddarparwr prentisiaethau, nid yn unig o ran nifer y prentisiaid, ond oherwydd y berthynas gadarnhaol sy’n bodoli rhwng ein cwmnïau.

“Maen nhw’n hynod gefnogol i’r pwynt lle mae’n anodd i’n staff weld y llinell sy’n gwahanu rhwng y ddau gwmni.”

Dywedodd Tracy fod prentisiaethau’n ffurfio asgwrn cefn datblygiad y gweithwyr yn y cyrchfan ac yn cynnig llwybr gyrfa i bobl sy’n dewis peidio â dilyn llwybr academaidd.

celtic manor resort welsh

Esboniodd: “Mae fframweithiau prentisiaeth yn ein galluogi i ddatblygu unigolion ar hyd y llwybr y mae cyrchfan pum seren yn gofyn amdano. Mae’r cyfleoedd i ennill wrth ddysgu’n ein galluogi i ddenu pobl sy’n teimlo na allant ddatblygu eu sgiliau trwy weithio a mynd i’r coleg yn rhan-amser”

O ran y dyfodol, dywedodd fod y cyrchfan yn gyson edrych i arloesi gyda fframweithiau newydd i fodloni meysydd anghenion a sgiliau sy’n esblygu nad yw prentisiaethau’n eu cwmpasu.

Yn ogystal â chael mynediad i bortffolio dysgu ychwanegol, trwy weithdai ac e-ddysgu, mae prentisiaid hefyd yn troi at ap mewnol sy’n eu galluogi i gyfathrebu a chysylltu.

Canmolodd Chris Bason, pennaeth uned fusnes lletygarwch Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ymrwymiad y cyrchfan i ddatblygiad staff.

“Mae’r cwmni’n creu argraff arnaf yn barhaus o ran lefel y diddordeb sydd ganddo ym mhob prentis, gan sicrhau bod y gweithgareddau dysgu a gwaith yn cael eu hintegreiddio i fod o fantais i’r unigolyn a’r busnes,” dywedodd.

celtic manor apprenticeships jobs case study employer

“Mae eu ffordd o droi at y rhaglen brentisiaeth a’i mabwysiadu’n wirioneddol ysbrydoledig. Fel darparwr hyfforddiant, da o beth yw gweld y fath frwdfrydedd i ddysgu a datblygu eu staff, ni waeth beth yw eu cefndir, lefel neu oedran.

“Mae’r adran ddysgu a datblygu’n chwilio am ffyrdd o wella a chyflawni i’r mwyaf bob amser. Mae cyflwyno platfformau e-ddysgu ac apiau at yr unig ddefnydd o ddatblygu staff a chyfathrebu’n rhyfeddol.”

#YmgysylltuYsbrydoliLlwyddo