Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu ei rhaglen ar gyfer llywodraeth dros y pum mlynedd nesaf ac mae Hyfforddiant Cambrian yn falch o weld yr ymrwymiad i brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau fel rhan ohoni.
Cyhoeddwyd cynllun Symud Cymru Ymlaen y mis hwn ag ymgyrch i wella economi Cymru rhwng 2016 a 2021.
Yn y cynllun, a lansiodd y Prif Weinidog Carwyn Jones AC, ceir nifer o feysydd allweddol a dylai cyflogwyr eu nodi. Ymhlith y rhain y mae:
• Ymrwymiad i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ansawdd uchel, i bob oedran
• “Ail-lunio’r cymorth cyflogadwyedd ar gyfer unigolion sy’n barod am swydd, a’r rheini sydd ymhellaf o’r farchnad lafur, i gaffael y sgiliau a’r profiad i ennill a chynnal cyflogaeth gynaliadwy.”
Mae’n dda clywed am yr ymrwymiad i ddarparu prentisiaethau ledled Gogledd, Canolbarth, De a Gorllewin Cymru.
Prentisiaethau yw un o’n straeon llwyddiant economaidd yng Nghymru â nifer o fusnesau’n ymrwymo i fuddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant trwy raglenni y mae Hyfforddiant Cambrian yn eu darparu ar ran Llywodraeth Cymru, ac yn gwneud y buddsoddiad hwn.
Mae’r ymrwymiad i gymorth cyflogadwyedd ar gyfer unigolion sy’n barod am swydd a sgiliau i’r rheiny sydd ymhellaf oddi wrth y farchnad lafur hefyd yn dangos sut mae rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru a’r cynllun Sgiliau Cyflogadwyedd newydd hefyd yn darparu cyfleoedd i gyflogwyr ac unigolion ledled Cymru.
Fel un o ddarparwyr hyfforddiant busnes, prentisiaethau a hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru i amrywiaeth o sectorau sgiliau, bydd Hyfforddiant Cambrian yn darparu’r rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd i helpu pobl i gael swydd neu i wella eu dysgu ar lefel uwch, fel prentisiaethau.
Bydd yn targedu pobl sy’n derbyn budd-daliadau fel Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Mae Prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru ag rhaglenni a chyflogadwyedd yn cael eu arwain gan Llywodraeth Cymru ac yn cael ei chefnagi gan cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Os ydych chi eisiau cynyddu’ch ymgysylltiad gyda phrentisiaethau neu wedi nodi angen hyfforddiant yn eich busnes, gallwn helpu’ch cefnogi i wneud gwir wahaniaeth i berfformiad eich busnes.
Er mwyn cael gwybod sut gallwn helpu diwallu’ch anghenion hyfforddiant ar gyfer 2017, ffoniwch 01938 555893 neu anfonwch e-bost; info@cambriantraining.com