Siopau Cigydd – Cefnogi neu Golli

Philip Tucker o Tuckers Butchers, Mwmbwls - Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru

Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu’n lleol a’r ffaith fod cigyddion yn rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid ac yn barod i addasu eu cynnyrch wrth i ofynion pobl newid. “Er mwyn sicrhau bod siopau cigydd yn para i’r dyfodol mae angen gwneud mwy o ymdrech i hyrwyddo cigyddiaeth fel gyrfa a buddsoddi mewn prentisiaethau cigyddiaeth. Dyma pam mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn noddi gornest Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru,” meddai Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni.

Busnesau Cigyddion yn Tyfu er bod yr Economi’n Crebachu

Rhwng 1995 a 2019, roedd y lleihad yn nifer siopau cig annibynnol y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu’r dirywiad yn y stryd fawr gan ostwng 60% i tua 6,000 o safleoedd (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Fodd bynnag, yn ddiweddar mae llawer o gwsmeriaid yn dewis dychwelyd i’r stryd fawr a phrynu cig ffres wedi’i fagu’n lleol a’i gynhyrchu mewn ffordd foesegol – cig y gellir olrhain ei darddiad ac sydd ag ôl troed carbon bychan. Yn ogystal, mae cigyddion sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol yn rhoi cyngor arbenigol i gwsmeriaid ar baratoi a choginio cig a sut i’w storio’n ddiogel a byddant yn torri’r cig i ofynion penodol cwsmer. Mae mwy o ddewis o gig ffres hefyd, o iau oen i sgwariau bol porc rhost â chraclin i wahanol fathau o selsig cartref, prydau parod hwylus i’w coginio a chigoedd barbeciw. Diolch i ymgyrchoedd marchnata Hybu Cig Cymru (HCC), mae cwsmeriaid yn deall bod gan gigyddion ran hanfodol yn y gwaith o gefnogi datblygiad economaidd lleol, hyrwyddo cynnyrch lleol, a phrynu o ffermydd lleol sydd yn eu tro yn defnyddio lladd-dai lleol, gan gefnogi’r gadwyn gyflenwi ar gyfer cig ffres. Y llynedd gwerthwyd mwy o gig eidion a chig oen rhydd na chig felly wedi’i becynnu’n barod. Yn y pedair blynedd diwethaf, arafodd y gostyngiad mewn siopau cig gryn dipyn. Felly yn 2023 roedd 5,637 o siopau cig yn y DU. Mae canlyniadau’r Big British Butchers Survey 2023 gan y National Craft Butchers yn cadarnhau’r adfywiad gyda’r rhan fwyaf o’r cigyddion a holwyd yn nodi bod eu busnesau wedi tyfu yn 2022 – “gan ddangos adfywiad graddol yn un o gonglfeini’r stryd fawr yn y DU mewn cyfnod anodd”.

Cynllunio ar gyfer Olyniaeth – Hyrwyddo Prentisiaethau Cigyddiaeth

Un o’r prif fygythiadau sy’n wynebu’r sector cigyddiaeth yn y DU, yn cynnwys Cymru, yw oedran cigyddion, gyda hanner y perchnogion busnesau a ymatebodd i’r Big British Butchers Survey 2023, yn 56 oed neu’n hŷn a 26% yn bwriadu ymddeol yn y pum mlynedd nesaf. O’r cigyddion a ymatebodd, dim ond 33% sy’n cyflogi prentis ar hyn o bryd er i 82% ddweud y byddent yn croesawu un. “Mae’n hanfodol bwysig hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o gigyddion a hyrwyddo gyrfaoedd a phrentisiaethau cigyddiaeth er mwyn sicrhau nad ydym yn colli’r sgiliau hyn,” meddai Faith O’Brien.

Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC) yw’r darparwr dysgu seiliedig ar waith sy’n darparu’r nifer fwyaf o brentisiaethau cigyddiaeth yng Nghymru ac mae’n cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo’r sector. Dyna pam mai’r cwmni yw noddwr swyddogol cystadleuaeth Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru, a drefnir gan Gymdeithas Goginio Cymru (CAW). Mae hefyd yn cefnogi Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru, sy’n cynnwys prentisiaid cigyddiaeth gorau’r wlad. Mae Swyddog Hyfforddiant Cigyddiaeth CHC, Craig Holly, wedi cystadlu yn Nhîm Cigyddiaeth Crefft Cymru yn America. Meddai “Roedd yn anrhydedd fawr i mi gael cynrychioli fy ngwlad ac arddangos fy sgiliau proffesiynol ar lwyfan y byd. Mae’r cyfleoedd hyn i gystadlu yn bwysig gan eu bod yn chwistrellu ffyrdd newydd o feddwl y gallwn eu defnyddio yn y siop. Heb y cystadlaethau hyn, byddai llawer llai o arloesi a datblygu ym maes cigyddiaeth. Mae cystadlu’n rhoi hwb i’r hyder hefyd, gan helpu i hyrwyddo busnes y cystadleuwyr a denu rhagor o gwsmeriaid. Gyda rhagor o bobl yn dewis yn ofalus ble maen nhw’n siopa, gall cystadlaethau fel hyn fod yn fanteisiol i gigyddion.”

Mae Ben Roberts, 32, wedi cwblhau cyfres o brentisiaethau cigyddiaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, o Brentisiaeth Sylfaen mewn Cynhyrchu Bwyd hyd at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) ac yna Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Busnes. Ym mis Ionawr eleni, llwyddodd i agor ei siop gigydd ei hun, Astely & Stratton Ltd. yn Farndon, ger Caer, gan gymryd lle siop gigydd Griffiths a fu ar y Stryd Fawr ers 200 mlynedd. Roedd y perchennog diweddaraf yn ymddeol.

Yn ogystal â’i alluogi i ddysgu crefft a sefydlu ei fusnes ei hun, mae taith Ben trwy ei brentisiaethau wedi rhoi cyfle iddo arddangos ei grefft a rhagori yn ei faes. Mae wedi cystadlu dros ei wlad yn Nhîm Cigyddiaeth Crefft Cymru gan orffen yn drydydd yng nghystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills UK 2021 ac yn ail yng ngornest Cigydd y Flwyddyn Cymru yn yr un wythnos ag yr agorodd ei fusnes newydd. Enillodd Ben wobrau Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru ac yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian 2022 ac mae hefyd wedi’i benodi’n Llysgennad Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru. Mae’n awyddus iawn i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gigyddion.

“Fy nod yn y tymor hir yw sefydlu rhaglen brentisiaethau yn y siop, er mwyn i gigyddion ifanc gael yr un profiadau ag y ces i’r fraint o’u cael yn fy ngyrfa hyd yma,” meddai Ben.

Llywodraeth y DU yn Buddsoddi yn y Stryd Fawr a’r Sector Cigyddiaeth

Mae Llywodraeth y DU yn cymryd camau i wrthdroi’r dirywiad ac adfywio’r stryd fawr mewn trefi ledled y DU. Mae’r llywodraeth wedi sefydlu Tasglu’r Stryd Fawr ac wedi creu Cronfa Stryd Fawr y Dyfodol gwerth £1 biliwn a Chronfa Trefi gwerth £2.6 biliwn i gefnogi gwaith adnewyddu ac ail-lunio’r stryd fawr a mannau eraill yng nghanol trefi. Mae Menter a Busnes, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynhyrchu adnoddau addysg dwyieithog i ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn Cigyddiaeth yn ysgolion Cymru ar gyfer Camau Cynnydd 3 a 4, gan dargedu myfyrwyr TGAU Technoleg Bwyd.

Sylw i gigyddion gorau Cymru ar Lwyfan y DU a’r Byd

Mae gan Gymru dreftadaeth gyfoethog o ffermio cig ac mae timau Cigyddiaeth Crefft blaenorol Cymru wedi cael llawer o lwyddiant. Maent wedi ennill cystadlaethau Cigyddiaeth yn WorldSkills UK a Premier Butcher ac mae cigyddion o Gymru wedi’u dewis i gynrychioli tîm y DU mewn cystadlaethau Cigyddiaeth rhyngwladol. Mae hyn i gyd wedi helpu i hyrwyddo prentisiaethau a gyrfaoedd mewn cigyddiaeth.

“Rydym yn falch iawn bod Craig a Ben a phrentisiaid eraill wedi cael llwyddiant yn eu gyrfa. Bydd Hyfforddiant Cambrian yn gwneud eu gorau i sicrhau bod prentisiaid cigyddiaeth Cymru’n cael cyfle yn y dyfodol hefyd i gystadlu yn erbyn y goreuon ac arddangos eu crefft. Bydd hyn yn hwb i lwyddiant a bywiogrwydd y sector cigyddiaeth,” meddai Faith O’Brien.