Cystadleuaeth Arlwyo

Gofynion Mynediad

Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar Lefel Mynediad 2. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod 16 oed neu hŷn. Gall uchafswm o 2 gystadleuydd fesul sefydliad ymgeisio. Caiff ceisiadau ei gwneud trwy eich arweinydd cystadlaethau rhanbarthol. Mae’n rhaid cyflwyno datganiad o gymorth sy’n amlinellu unrhyw anghenion sydd gan y cystadleuydd o fewn y gystadleuaeth â’r ffurflen gais.

Tasg y Gystadleuaeth

Bydd gofyn i gystadleuwyr baratoi brechdan o ddewis a thriawd o bwdinau ar gyfer dau o bobl, â thema Gymreig.

Bydd y gystadleuaeth hon yn profi gwybodaeth a sgiliau cystadleuwyr yn y meysydd canlynol; Iechyd & Diogelwch, hylendid, sgiliau cyllell, defnydd o offer, sgiliau cyflwyno a gwybodaeth am gyfuniadau blas.

Bydd cystadleuwyr yn cael 1 awr a 15 munud i baratoi brechdan o’u dewis a “Thriawd o Bwdinau” â Thema Gymreig ar gyfer dau o bobl, ar blatiau ar wahân.

Triawd i gynnwys:

  • Cacen fach wedi’i haddurno
  • Nyth meringue â hufen a ffrwythau arno
  • Pwdin bach o’ch dewis

I’w darparu gan y gwesteiwr:

  • Caiff cyfarpar (oni nodir) ei ddarparu
  • Cacennau bach wedi’u gwneud ymlaen llaw
  • Meringues wedi’u gwneud ymlaen llaw
  • Bara Brown a Gwyn
  • Menyn

I’w darparu gan y Cystadleuydd

  • Mae’n rhaid i gystadleuwyr ddarparu eu gwisg a PPE eu hunain
  • Platiau a dysglau (x2) o’ch dewis i gyflwyno pob platiad o’r triawd o bwdinau
  • Cynhwysion ychwanegol at y cacennau bach, meringue, bara a menyn h.y. hufen (heb ei chwipio) addurn bwytadwy, hufen menyn, llenwad brechdan a ffrwythau
  • Yr holl gynhwysion ar gyfer pwdin o’ch dewis
  • Offer arddangos ar gyfer pwdin o’ch dewis

Mae’n rhaid i’r triawd gael ei ddylunio’r un peth ar gyfer pob platiad.

Cofrestru

Yn agor ar 1af Medi ac yn dod i ben ar 20fed Hydref!

Gallwch gofrestru ar-lein trwy: https://www.skillscompetitionwales.ac.uk/

Cystadleuaeth Gwasanaeth Bwyty

Gofynion Mynediad

Mae’r gystadleuaeth ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar Lefel Mynediad 1. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod 16 oed neu hŷn. Gall uchafswm o 2 gystadleuydd fesul sefydliad ymgeisio. Caiff ceisiadau eu gwneud trwy eich arweinydd cystadlaethau rhanbarthol. Mae’n rhaid cyflwyno datganiad o gymorth sy’n amlinellu unrhyw anghenion sydd gan y cystadleuydd o fewn y gystadleuaeth â’r ffurflen gais.

Tasg y Gystadleuaeth

Bydd gofyn i’r cystadleuydd osod bwrdd ar gyfer 2, ar gyfer prif gwrs, i weddu thema “Santes Dwynwen”.

Bydd y bwrdd o faint addas i 2 o bobl eistedd (efallai y bydd siâp y bwrdd yn sgwâr, cylch neu hirsgwar).

Bydd cystadleuwyr yn cael 30 munud i gwblhau’r dasg hon:

  • Sychu / glanhau’r bwrdd
  • Sgleinio a gosod cyllyll a ffyrc (gan ddefnyddio lliain)
  • Pob lle gosod i gynnwys gwydr dŵr a napcyn (napcynnau papur i gael eu darparu)
  • Lle gosod i gynnwys addurn i gyd-fynd â’r thema “Santes Dwynwen”

I’w darparu gan y gwesteiwr:

  • Lliain a chwistrell i sychu’r bwrdd
  • Cyllyll a ffyrc: 2 gyllell prif gwrs, 2 fforc prif gwrs, 2 wydr dŵr, 2 napcyn papur plaen, lliain a dŵr poeth ar gyfer sgleinio cyllyll a ffyrc, bwrdd ar yr ochr i ddal cyfarpar

I’w darparu gan y cystadleuydd

  • Addurniadau bwrdd
  • Gwisg y cystadleuydd
  • Napcynnau amgen os oes angen (papur neu liain)
  • Lliain bwrdd (os oes angen)

Cofrestru

Yn agor ar 1af Medi ac yn dod i ben ar 20fed Hydref!

Gallwch gofrestru ar-lein trwy: https://www.skillscompetitionwales.ac.uk/