Capsiwn y llun: Saulius Repecka yn derbyn ei fedal aur oddi wrth Arwyn Watkins, OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Mae cigydd o Ogledd Iwerddon, sydd wedi treulio naw mlynedd fel pen-cogydd, wedi cyfuno ei sgiliau i gael gwared ar y gweddill pan gafodd ei enwi’n bencampwr Cigyddiaeth WorldSkills UK dros y penwythnos.
Mae Saulius Repecka, 30, yn gweithio i Archfarchnad Emerson, Armagh, a chasglodd fedal aur yn Sioe Fyw WorldSkills UK yn yr NEC ym Mirmingham, lle y gwnaeth dda ar y beirniaid yn rownd derfynol y gystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog.
Mae’n hanu o Lithwania, symudodd i Ogledd Iwerddon 10 mlynedd yn ôl, a llwyddodd er gwaethaf her gref gan y pedwar cigydd arall a phob un wedi cwblhau pum tasg dros ddau ddiwrnod o flaen cynulleidfa fyw.
Mae’r gystadleuaeth yn canolbwyntio ar yr holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel cigydd aml-sgil yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd. Caiff y cigyddion eu profi ar sgiliau cyffredinol, arloesi, creadigrwydd, cyflwyniad, etheg gwaith, dull a dull o ymdrin â thasgau, defnyddio carcas a thoriadau cychwynnol, gwastraff, ac ymarferion gweithio diogel a hylan.
Datgelodd Saulius mai’r rownd derfynol oedd yr ail dro’n unig iddo gystadlu fel cigydd – cystadlodd am y tro cyntaf yn rhagbrawf Gogledd Iwerddon cystadleuaeth WorldSkills UK haf eleni.
“Mae’n gyflawniad mawr ac yn brofiad mawr,” dywedodd. “Pan ddechreuais yn y gystadleuaeth, roeddwn yn meddwl efallai y buaswn yn gallu bod ymhlith y pedwar gorau oherwydd roeddwn i’n gwybod bod yna gigyddion â mwy o brofiad na mi’n cystadlu ac y byddai’n anodd.
“Ar ôl treulio naw mlynedd fel pen-cogydd cyn dod yn gigydd, mae gen i gyffyrddiad y pen-cogydd, a chredaf fod hynny wedi helpu. Fel cigydd, mae’n rhaid i chi wybod sut i goginio, cyflwyno a disgrifio cig. Deuthum yn gigydd oherwydd fy mod yn awyddus i wybod o le y daeth y gwahanol doriadau o gig.
“Ar hyn o bryd rwy’n hyfforddi fel goruchwylydd a rheolwr a gobeithiaf fynd ymlaen at radd sylfaen mewn datblygu cynnyrch.”
Enillydd y fedal arian oedd Craig Holly, 29, o Gigyddion Neil Powell, Y Fenni, enillydd Cigydd Porc y Flwyddyn Cymru yn y gorffennol ac enillydd y fedal efydd oedd Robbie Hughan, 25, o Siop Fferm Smiddy Drummond Blair, Stirling.
Y rhai eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Cigydd y Flwyddyn Cymru Dan Allen-Raftery, 35, o Fwydydd Randall Parker, Llanidloes a Dylan Gillespie, 23, o Gigoedd Clogher Valley, Clogher.
Enillodd y cigyddion eu lle yn y rownd derfynol ar ôl gwneud argraff dda ar feirniaid mewn rhagbrofion rhanbarthol ar gyfer Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi ennill gwobrau, wedi trefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth gyda chefnogaeth Grŵp Llywio’r Diwydiant. Y noddwyr yw’r Cyngor Addysg a Hyffordiant Bwyd a Diod, The Institute of Meat, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales, Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, Cwmni Anrhydeddus y Cigyddion ac ABP.
Partner dehongli cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK yn The Skills Show yw Southern College, Newry. Mynychodd staff a myfyrwyr coleg The Skills Show i arddangos a hyrwyddo sgiliau cigyddiaeth i ymwelwyr â’r sioe.
Meddai Chris Jones, pennaeth uned fusnes bwyd a diod Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Roedd y rownd derfynol yn gystadleuaeth hynod o agos rhwng pum pen-cogydd dawnus. Bob blwyddyn byddwn yn gweld gwelliant o ran sgiliau ac roedd y cynhyrchion parod i’w bwyta, yn benodol, yn rhagorol eleni.”
Cigyddiaeth yw un o fwy na 60 o sgiliau yng nghystadlaethau WorldSkills UK eleni hon y profwyd eu bod yn helpu pobl ifanc i fynd ymhellach, yn gynt yn eu hyfforddiant a gyrfaoedd. Mae arbenigwyr yn y diwydiant wedi dylunio’r cystadleuaeth ac maent yn canolbwyntio ar safonau uchaf y DU a rhyngwladol.
Maent yn darparu buddion i brentisiaid a myfyrwyr, yn ogystal â’u cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a cholegau. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau yn paratoi prentisiaid â’r sgiliau o’r radd flaenaf sydd eu hangen i helpu sefydliadau i gynnal eu mantais gystadleuol.
“Mae’n bwysig bod cigyddiaeth yn cael ei chynrychioli fel sgil yn WorldSkills UK oherwydd ei bod yn grefft go iawn y mae angen ei meincnodi a’i hyrwyddo,” dywedodd Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian sy’n cydlynu’r gystadleuaeth. “Mae ei chynnwys am y pedwerydd tro wedi bod yn arf gwych i godi safonau a phroffil y diwydiant.”