Mae Andrew Bennett, sydd yn rownd derfynol y Gwobrau, yn benderfynol o beidio â gadael i ddyslecsia na’r ffaith ei fod wedi colli ei olwg mewn un llygad ei rwystro rhag cael gyrfa lwyddiannus.
Mae’r Cynghorydd Ailgylchu 51 oed o Abergele wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, mae’n gweithio ar Brentisiaeth ac mae wedi dechrau mentora ei gydweithwyr.
Bu hyfforddiant Andrew yn help iddo gael ei ddyrchafu’n Oruchwylydd dros dro gyda Bryson Recycling sydd â safleoedd ym Mochdre ac Abergele ac sydd wedi buddsoddi mewn hyfforddiant yn y gwaith iddo.
Mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.
Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.
Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
“Pan ddaeth y cyfle i gychwyn ar y Brentisiaeth Sylfaen, roeddwn yn nerfus oherwydd y dyslecsia a’r ffaith mod i wedi colli ’ngolwg ond roeddwn yn awyddus i roi cynnig arni,” meddai Andrew, a gefnogwyd gan ei gyflogwr ac Amy Edwards, Swyddog Hyfforddi gyda’r darparwr dysgu, Hyfforddiant Cambrian.
“Dwi wedi datblygu awydd i ddysgu, sy’n dipyn o syndod i mi, a dwi wedi symud ymlaen i wneud prentisiaeth a fydd yn rhoi cyfle i mi lwyddo yn fy ngyrfa. Ers i mi wneud y brentisiaeth dwi’n credu ynof fi fy hunan ac yn fy ngallu i lwyddo.”
Ym mis Mawrth, roedd wrth ei fodd o ennill gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau blynyddol Hyfforddiant Cambrian.
Ar ôl cymryd rhan mewn cynllun gwneud iawn â’r gymuned pan gafwyd ef yn euog o yrru’n beryglus yn 2016, roedd yn awyddus i dalu yn ôl am ei gamgymeriad, “Ro’n i’n benderfynol o fod yn batrwm i bobl eraill a dangos y gallwch droi’r gornel ar ôl gwneud camgymeriad a dwi wedi gweithio’n galed i wneud hynny,” esboniodd.
Dywedodd Daniel McCabe, Goruchwyliwr Andrew yn Bryson Recycling: “Mae Andrew wedi rhagori yn ei hyfforddiant a’i yrfa fel Cynghorydd Ailgylchu ac fel Goruchwyliwr dros dro ar ein safle yn Abergele.”
Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Andrew a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.
“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”
Picture captions:
Andrew Bennett (dde) gyda Vincent Thomas o Bryson Recycling, Abergele ac Amy Edwards, Swyddog Hyfforddi gyda Cambrian Training.