I weini 4 o bobl
Cynhwysion
- 50g Blawd plaen
- 50g Menyn Cymreig
- 250ml Cwrw Cymreig
- 250g Cheddar Aeddfed Cymreig
- 10g Mwstard Cymreig
- 30ml Saws Caerwrangon
- 100g o gennin wedi’u sleisio’n fân
- 4 tafell fawr drwchus o fara graneri
Dull
- Chwyswch y cennin mewn sosban fach gyda’r menyn a gadewch nhw i oeri ychydig.
- Mewn sosban fach, toddwch y menyn a gwnewch roux gyda’r blawd.
- Coginiwch y roux am gwpl o funudau, gan droi’n barhaus hyd nes iddo adael ochr y sosban, wedyn ychwanegwch y cwrw Cymreig yn raddol i greu pâst llyfn.
- Ychwanewch y cheddar aeddfed Cymreig a’r cennin – dylai fod gennych bâst trwchus erbyn hyn.
- Yn olaf, ychwanegwch y mwstard Cymreig a’r saws Caerwrangon a blasuso gyda halen a phupur.
- Tostiwch y bara graneri’n ysgafn yna taenwch y cymysgedd caws yn eithaf trwchus hyd at yr ymylon, rhowch dan gril poeth i’w goginio tan iddo frownio.