Gellir diffinio Rheoli Gwastraff fel casglu, cludo a gwaredu a rheolaeth derfynol gwastraff a deunyddiau ailgylchu, gan gynnwys goruchwyliaeth y gweithrediadau hynny, ac ôl ofal safleoedd gwaredu, gan gynnwys y camau a gymerir fel brocer a delwyr.
Yn Hyfforddiant Cambrian, rydym yn cynnig prentisiaethau Rheoli Ailgylchu a Gwastraff ar draws Cymru i weddu holl ardaloedd y diwydiant o lefel sylfaen i brentisiaethau uwch. Gall dysgu trwy brentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.
Bydd ein rhaglenni prentisiaeth Rheoli Ailgylchu a Gwastraff yn rhoi i chi’r holl sgiliau sydd angen er mwyn llwyddo yn y diwydiant.
Mae cyfleoedd ar gyfer prentisiaid ar gael lle mae busnesau ar agor ar gyfer gweithwyr newydd a presennol.
Dyma’r gweithgareddau craidd yn y diwydiant;
- Casglu a chludo gwastraff;
- Gorsafoedd trosglwyddo, Gwastraff y Cartref a Chanolfannau Ailgylchu;
- Ynni o wastraff (gan gynnwys prosesau adferiad thermol a threulio anaerobig);
- Ailgylchu, prosesu a gweithrediadau arbenigol
- Tirlenwi.
Yn ôl RecycleNow, mae ailgylchu yn y DU yn arbed dros 18 miliwn tunnell fetrig o garbon deuocsid y flwyddyn – sy’n gyfwerth â thynnu 5 miliwn o geir oddi ar y ffordd.
Hyfforddiant a Phrentisiaethau
Cyflwynir hyfforddiant yn y diwydiant rheoli gwastraff ac ailgylchu mewn ystod eang o ffurfiau. Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau’n cynnig fframwaith syml a rhesymol sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu.
Ei nod yw rhoi cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gyda WAMITAB am gyflwyno hyfforddiant mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.
Cymwysterau prentisiaeth ar gael yng Nghymru:
- Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 2
- Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 3
- Systemau a Rheoli Gweithrediadau Lefel 4
Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.
Cyflogwyr y gweithiwn gyda nhw;
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr ledled Cymru yn y Diwydiant Lletygarwch ac rydym yn parhau i rwydweithio gyda chyflogwyr sy’n ystyried cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant. Peidiwch â chymryd ein gair amdano yn unig, gweld beth mae ein cyflogwyr yn ei ddweud amdanom ni >>
Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth >>
Cyllid Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid, gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.
Eisiau dysgu yn Gymraeg? Gallwn ddarparu pob rhaglen brentisiaeth yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.