“Rhaid i’r system addysg newid i ddiwallu anghenion ein heconomi”

 Gan Arwyn Watkins, OBE, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian a llywydd Cymdeithas Coginio Cymru

Bydd y mwyafrif o bobl yn ymwybodol erbyn hyn o’r argyfwng recriwtio mewn sawl sector o’r economi yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae’r prinder gyrwyr lorïau wedi bod yn dominyddu’r penawdau yn ddiweddar, ond roedd y diwydiant lletygarwch yn mynd i’r afael â nifer gostyngol o staff hyd yn oed cyn i bandemig Covid-19 gloi’r DU.

 

Rwy’n angerddol am y diwydiant lletygarwch, wrth reswm, gan fy mod wedi dechrau fy ngyrfa fel prentis cogydd yn y Fyddin. Yn gynharach eleni, cymerodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian y cam beiddgar o agor Siartwyr 1770 yn Y Trewythen, bwyty gyda saith ystafell yn nhref farchnad hanesyddol Canolbarth Cymru, Llanidloes. Mae’r busnes newydd yn cyflogi 16 aelod o staff llawn amser a rhan-amser, gan gynnwys chwe phrentis.

 

O brofiad personol ac wrth siarad â busnesau lletygarwch yr ydym yn gweithio gyda hwy ledled Cymru, rwy’n ymwybodol iawn o ba mor anodd yw recriwtio staff. Gadewch imi ddweud o’r cychwyn, nid oes atebion hawdd i’r argyfwng recriwtio hwn.

 

Am ormod o flynyddoedd, mae busnesau lletygarwch a sectorau eraill o’r economi wedi bod yn or-ddibynnol ar weithwyr o wledydd Ewropeaidd. Nawr, o ganlyniad i Brexit ac effaith y pandemig, nid yw’r ymfudwyr economaidd hyn ar gael i fusnesau mwyach.

 

Rwy’n credu bod yr ateb tymor hir yn gorwedd gyda’r system addysg orfodol yma yng Nghymru a ledled y DU. Am fwy na degawd, mae’r sector dysgu yn y gwaith yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu i brentisiaethau gael parch cyfartal â graddau. Ond mae ein geiriau wedi syrthio ar glustiau byddar.

 

Ar hyn o bryd mae ein system addysg yn annog y plant mwyaf talentog, cynhyrchiol i anelu at fynychu’r brifysgol tra bod prentisiaethau yn aml yn cael eu hystyried yn ail opsiwn. Mae hyn yn arwain at lawer o bobl ifanc dalentog yn mynd i’r brifysgol ac yn cyflawni graddau nad ydynt yn gysylltiedig ag anghenion yr economi. Rhaid i hyn newid fel bod ein system addysg, o’r ysgol gynradd i fyny, yn gysylltiedig ag anghenion ein heconomi yn y dyfodol.

 

Sut mae plant yn ymwybodol o’r cyfleoedd yn y diwydiant lletygarwch a sectorau eraill ar hyn o bryd? Yr ateb yw, nid ydyn nhw ac mae’n rhaid i hynny newid. Fel mewn diwydiant, rhaid caniatáu inni ymgysylltu â phlant o oedran ysgol gynradd i fyny.

 

Mae’r Gweinidog dros yr Economi Vaughan Gethin wedi dweud bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein plant yng Nghymru, ac eto mae ein system addysg yn gweithredu yn groes i hynny.  Rydym yn allforio ein talent i brifysgolion y tu allan i Gymru a faint sy’n dychwelyd i’r gwaith yma? Mae hyn yn draen ar adnoddau dynol.

 

Efallai fod y polisi hwnnw wedi bod yn iawn yn y gorffennol oherwydd bod opsiynau eraill ar gael i fusnesau ar ffurf ymfudwyr economaidd. Nid yw’r opsiwn hwnnw’n bodoli mwyach.

 

Mae angen i bob busnes lletygarwch gael sgwrs â’u gwleidyddion, yng Nghymru a ledled y DU. Ni allwn barhau i weithredu mewn economi lle mae 50 y cant o’n hunigolion mwyaf talentog yn cael eu hannog i addysg uwch, gan fynd â nhw allan o’r gweithlu am o leiaf tair blynedd.

 

Nid yw newid y system hon yn mynd i ennill pleidleisiau ond mae diwallu anghenion yr economi yn bwysicach o lawer i’r wlad na phleidleisiau. Gall Llywodraethau’r DU a Chymru ddechrau trwy wneud plant yn ymwybodol o’r cyfleoedd gyrfa gwerth chweil sydd ar gael yn y diwydiant lletygarwch. Yn anffodus nid yw’r diwydiant yn cael yr un parch yma ag yng ngwledydd eraill Ewrop.

 

Nid oes unrhyw weithlu yn dod dros y bryn i’n hachub. Yn y tymor hir, mae’n rhaid i ni ddysgu sut i ddenu pobl i’r diwydiant lletygarwch, sut i’w trin pan fyddant yn ein busnesau a sut i’w gwerthfawrogi a’u cadw.

 

Mae angen i ni hefyd ddysgu sut i ymgysylltu â’n cymunedau lleol oherwydd bod  gweithlu ein dyfodol yn mynd i ddod o’n cymunedau, nid o’r tu allan. Mae’n hen bryd i’r rhai ohonom sydd naill ai’n gweithio yn y diwydiant neu’n mwynhau’r diwydiant ddechrau gwerthfawrogi’r fath yrfaoedd ar gyfer ein plant ein hunain. Yn anffodus, ar hyn o bryd nid oes digon o bobl yn ystyried lletygarwch fel gyrfa werth chweil ac mae hynny’n ganfyddiad y mae’n rhaid i ni yn y diwydiant ei newid.

 

Mae angen i fusnesau edrych yn hir ac yn galed arnyn nhw eu hunain i ddadansoddi a ydyn nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i greu’r amgylchedd gwaith cywir i’w staff. Os yw unigolyn yn dewis aros yng Nghymru i ddatblygu ei yrfa, yna mae’n ddyletswydd arnom fel cyflogwyr i greu cyfleoedd ar ei gyfer.

 

Mae’r byd wedi newid ers i’r pandemig ddechrau ac mae gweithwyr nawr yn ddealladwy, yn disgwyl cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Rhaid i’r diwydiant ymateb trwy greu cyfleoedd ar gyfer oriau gwaith hyblyg y mae llawer o fusnesau eisoes yn eu gwneud.

 

Fodd bynnag, ni allwn osgoi’r realiti llym bod rhai cyflogwyr wedi dioddef difrod enw da yn eu cymuned leol o ganlyniad i’r ffordd y maent wedi trin eu gweithwyr. Nid yw hynny’n rhywbeth y gellir ei ddatrys dros nos, ond mae’n rhaid i’r cyflogwyr hyn newid y ffordd y maent yn gweithredu neu adael y diwydiant. Mae lletygarwch yn ddiwydiant unigryw sy’n hynod bwysig i Gymru, ac sydd wedi’i brofi felly dros y 18 mis diwethaf.

 

Rwyf wedi sôn yn helaeth bod angen i bethau newid, ac fe fydd costau ynghlwm. Ond a fydd defnyddwyr yn barod i dalu mwy am wasanaethau lletygarwch yn y dyfodol?, sef canlyniad anochel cost gynyddol bwyd, llafur, tanwydd a threthi.

 

Yn y pen draw, bydd y defnyddiwr yn gorfod talu mwy am bopeth. A fydd hynny’n  bwynt torri ar gyfer cyfraddau deiliadaeth yn gostwng, gan wneud busnesau yn anhyfyw yn ariannol gyda llai o swyddi, llai o dreth i’r Trysorlys a mwy o bobl yn ddi-waith? Dim ond amser a ddengys.