Arwyn Watkins OBE, Hyfforddiant Cambrian Rheolwr Gyfarwyddwr, Rebekah Chatfield, Brods’ Prentis Pobydd & Mark Llewellyn, Swyddog Hyfforddi

 

Fel llawer o fyfyrwyr prifysgol, fe wnaeth Rebekah Chatfield ganfod ei hun ar groesffordd yrfa ar ôl iddi raddio o Brifysgol Abertawe.

Darganfu Rachel, sy’n 23 oed o Abertyleri, fod cyfleoedd i adeiladu ar ei gradd Bioleg Forol yn gyfyngedig a byddai’n rhaid iddi lywio i gyfeiriad newydd i ddechrau gyrfa.

Ar ôl cael ei enwi yn Brentis y Flwyddyn (Lefel 3) 2019 yng Ngwobrau Hyfforddiant Cambrian, bellach gall Rebekah fyfyrio ar wneud ei phenderfyniad proffesiynol gorau hyd yn hyn.

Mae hi’n credu bod ei phrentisiaeth wedi bod yn gyfrifol am droi ei hobi fel pobydd cartref yn yrfa gyffrous â Brød – The Danish Bakery o Gaerdydd.

“Dwi wastad wedi bod yn angerddol dros bobi felly mae hon yn yrfa berffaith i mi,” meddai Rebekah. “Ar ôl cwblhau fy ngradd, cefais anhawster wrth ddod o hyd i waith yn fy niwydiant arbenigol, neu mewn gwirionedd, unrhyw waith.”

Mae hi’n dweud bod y rhaglen Brentisiaeth wedi agor digon o ddrysau ac wedi creu ymdeimlad o hunangred yn ei galluoedd, â’i chyflogwr a Chwmni Hyfforddiant yn ei chefnogi bob cam o’r ffordd.

“Mae fy rhaglen brentisiaeth wedi fy nysgu i am fwy na phobi yn unig,” ychwanegodd Rebakah. “Mae wedi dysgu gwerth dyfalbarhad i mi, manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd a roddir i chi, ac yn bwysicaf oll, os ydych yn angerddol am rywbeth, nid oes unrhyw beth yn y byd sy’n gallu torri’r awydd hwnnw i lwyddo.”

Mae hi eisoes yn meddu ar Dystysgrif Lefel 3 ar gyfer Medrusrwydd mewn Sgiliau’r Diwydiant Pobi, ac mae Rebekah wedi targedu cymhwyster Rhagoriaeth mewn Gweithgynhyrchu Bwyd Lefel 4 â Chwmni Hyfforddiant Cambrian nesaf, wrth obeithio ysbrydoli mwy o ferched i gychwyn yn y proffesiwn.

“Nid oes llawer o ferched yn y diwydiant felly rwy’n gobeithio y bydd ennill y Wobr Brentisiaeth yn anfon neges ac y bydd mwy o bobl yn cael eu hannog i fod yn bobyddion crefftus,” meddai.

Mae ei chyflogwr wedi canmol ei chynnydd a ddisgrifiodd ei phenderfyniad i gychwyn ar Brentisiaeth ar ôl gradd fel un “beiddgar”.

“Mae hi wedi troi rhywbeth a fyddai’n rhwystr i lawer o bobl yn gyfle go iawn,” meddai Betina Skovbro, sylfaenydd Brød – The Danish Bakery, sydd hefyd yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn Hyfforddiant Cambrian ar gyfer 2019.

“Mae hi wedi cofleidio pob agwedd ar ei phrentisiaeth â llawer o egni, dos iachus o chwilfrydedd a pharodrwydd anhygoel i ddysgu. Mae Becky wir wedi bod yn brentis model, a’r penderfyniad hawsaf oll oedd cynnig swydd barhaol iddi ar ôl iddi gwblhau ei hyfforddiant.”

#BreuddwydioDysguByw