Mae cydweithwyr, ffrindiau ac aelodau teulu rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian Katy Godsell a Banc Barclays wedi dod at ei gilydd i godi £2,526 i Gronfa Ganser Lingen Davies yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig.
Cymerodd 76 o bobl, yn amrywio o 87 oed i blant bach mewn pram, ran yn Ras 5K Elusennol Cambrian llwyddiannus yn y Trallwng ar 13 Ebrill i godi £1,501 ac ychwanegodd Banc Barclays gyllid cyfatebol o £1,000 at y swm hwn.
Cwblhaodd un fam y llwybr pum cilometr gyda’i dau blentyn ifanc mewn pram, tra cadwodd blant eraill gwmni i’w rhieni yn y digwyddiad teuluol, a ddechreuodd ac a orffennodd yng Ngorsaf Dân y Trallwng ac roedd yn cynnwys rhannau o Barc Ystâd Castell Powis a llwybr halio’r gamlas.
Sicrhaodd y rheolwr gyfarwyddwr Arwyn Watkins o Gwmni Hyfforddiant Cambrian fod pawb a gwblhaodd y llwybr yn cael llond bol o fwyd ar ôl gorffen rhedeg neu gerdded.
Diolchodd Katy i aelodau’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr am wirfoddoli a helpu ar y diwrnod ac wrth arwain at y digwyddiad ac roedd hi’n hapus dros ben gyda’r cyfanswm a godwyd i Gronfa Ganser Lingen Davies.
Diolchodd hefyd i staff Gorsaf Dân y Trallwng am eu cefnogaeth, i Fanc Barclays am gyfateb y cyllid i’r digwyddiad, i Eric Neville am gyflenwi cwpanau, powlenni a llwyau un defnydd ar gyfer y lluniaeth ac i Jess Stait am gynnal ymarferion cynhesu cyn rhedeg.
Mae Katy, sy’n gweithio ym mhencadlys Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, newydd gwblhau triniaeth ar gyfer canser y fron. Gan fod bywydau sawl cydweithiwr wedi’u cyffwrdd gan ganser hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid oedd prinder cefnogaeth i’r elusen.
“Penderfynon ni godi arian i Gronfa Ganser Lingen Davies gan fod canser wedi cyffwrdd â bywydau cynifer o aelodau staff, teulu a ffrindiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” esboniodd.
“Roeddem am helpu’r elusen hon, sy’n ymroi i gefnogi cleifion canser lleol ar draws Canolbarth Cymru a Swydd Amwythig, gan ein bod ni wedi gweld y manteision yn uniongyrchol a’r gwahaniaeth a wnânt.”
Ym mis Rhagfyr, ymunodd Katy gyda chydweithwyr a ffrindiau i godi £533 i’r elusen trwy werthu addurniadau wedi’u creu â llaw, gwneud rhoddion yn hytrach nag anfon cardiau a threfnu arwerthiant, raffl, cwis a diwrnod gwisg ffansi i’r staff.
Mae Cronfa Ganser Lingen Davies yn ymroi i wella gwasanaethau canser er rhyddhad cleifion canser yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru, trwy ddarparu offer ac adeiladau arbenigol. Dros y blynyddoedd, mae’r elusen wedi buddsoddi miliynau i wella’r cyfleusterau i gleifion canser lleol.
Dywedodd Louise Cliffe, rheolwr codi arian yr elusen “Hoffwn i ddiolch i bawb yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian am drefnu’r digwyddiad 5k ac am godi swm mor uchel i’n helusen. Rydym yn ddiolchgar i bawb a helpodd wneud y digwyddiad hwn yn gymaint o lwyddiant.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell ar Ffôn: 01938 555 893.