Lucy Crawshaw o Taylor’s Farm Shop yn Lathom, Sir Gaerhirfryn yw Cigydd Ifanc gorau Prydain, gan ennill y teitl PRIF GIGYDD IFANC 2015 ar ôl curo chwe chigydd prentis arall yn rowndiau terfynol CYSTADLEUAETH Y PRIF GIGYDD IFANC a drefnwyd gan y Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd yn arddangosfa MEATUP yn y Ganolfan Arddangos Amaethyddol yn Stoneleigh ar ddydd Mawrth yn gynharach yr wythnos hon.
Gwelodd y gystadleuaeth chwe chategori, pum awr, a gydnabuwyd fel y gystadleuaeth sgiliau mwyaf beichus sydd ar agor i brentisiaid cigyddiaeth y DU, saith o brentisiaid gorau’r Wlad yn dangos eu sgiliau mewn cigyddiaeth ar hyd yr uniad a chreu arddangosiad ar gyfer cynhyrchion Parod i’w Bwyta, Rhost wedi’i Stwffio, Barbeciw a Pharod i’r Gegin.
Gyda phedwar tlws ar ddeg i’w hennill, aseswyd y cystadleuwyr ar gyfer eu sgiliau crefftus, arloesedd ac arferion gwaith gan arbenigwyr y diwydiant sef Danny Upson o Dalziel, Rheolwr Cynnyrch porc AHDB, Prif Weithredwr y Sefydliad Cig a’r Beirniad Cigyddiaeth Ryngwladol, Keith Fisher a Hyfforddwr y Tîm Cenedlaethol, ymgynghorydd y diwydiant a chynrychiolydd RAPS (UK), Viv Harvey.
Dangosodd Lucy, sy’n 23 oed ac yn brentis Cig lefel tri o Ipswich gydag 13 A* i B mewn TGAU, 4 Safon UG a rhagoriaeth driphlyg mewn Rheolaeth Tir Cefn Gwlad dra-arglwyddiaeth dros y cystadleuwyr eraill trwy ENNILL pedwar o’r chwe chategori ar gyfer ei chynhyrchion Parod i’w Bwyta, Rhost Wedi’i Stwffio, Cigyddiaeth ar Hyd yr Uniad a Barbeciw, yn ogystal â chael CANMOLIAETH UCHEL am Arddangos.
Yn agos at y brig yng NGHYSTADLEUAETH Y PRIF GIGYDD IFANC 2015 oedd y Rheolwr Cynorthwyol dau ddeg dwy oed, Joe Smith, sy’n gweithio yn Lishman’s of Ilkley yng Ngogledd Swydd Efrog. Cwblhaodd Joe brentisiaeth lefel tri gyda Choleg Dinas Leeds ac mae ganddo lefel dau mewn Cig a Dofednod yn ogystal â lefel dau mewn Iechyd a Diogelwch. Cystadlodd Joe, sy’n hen law ar gystadlaethau, yng nghystadleuaeth Q Guild yn yr NEC yn 2013 ac enillodd Gystadleuaeth Cigydd Ifanc Dalziel yn Leeds fis Medi llynedd.
Ar ddydd Mawrth, daeth Joe yn ail gan ENNILL y categorïau Parod i’r Gegin ac Arddangos a chafodd GANMOLIAETH UCHEL ddwywaith am ei gynhyrchion Parod i’w Bwyta a Barbeciw.
Yn ogystal, cafodd y prentis lefel tri dau ddeg un oed o Goleg Dinas Leeds, George Clapham o Farbarsey Farm Shop ger Halifax, Gorllewin Swydd Efrog, GANMOLIAETH UCHEL ddwywaith yn y categorïau Rhost wedi’i Stwffio a Chigyddiaeth ar hyd yr Uniad. Tra casglodd y cyd-brentis dau ddeg tair oed o Goleg Dinas Leeds, Matthew Lewis, o Blackerhall Farm Shop ger Wakefield, De Swydd Efrog, GANMOLIAETH UCHEL am ei gynhyrchion Parod i’r Gegin.
Ymhlith y rhai oedd yn weddill yn y ROWND DERFYNOL a gystadlodd ac a gafodd dystysgrifau a medalau oedd prentisiaid Meat Ipswich, Tara Davies sy’n ddau ddeg un oed o Gog Magog Farm Shop yn Swydd Caergaint, Ryan Douglas, dau ddeg dwy oed o Carnivore Foods yn Sidcup, Caint a Lewis Perry, ugain oed o Packington Moor Farm Shop ger Lichfield yn Swydd Stafford.
Yn siarad yn y cyflwyniadau, dywedodd Llywydd NFMFT a Chigydd o Dde Llundain, JIM SPERRING:
“Mae’n wych gweld prentisiaid ifanc gyda’r sgiliau y chwilir amdanynt yn arddangos yma heddiw. Deg allan o ddeg iddyn nhw i gyd, maen nhw’n gaffaeliad i’r fasnach, rwy’n si?r fod dyfodol disglair o’u blaenau”!
Noddwyd Cystadleuaeth y Prif Gigydd Ifanc 2015 a drefnwyd gan NFMFT ac a gynhaliwyd gan Yandell Media yn arddangosfa MEATUP yn yr AEC yn Stoneleigh, Swydd Warwig gan AHDB Pork, AHDB Beef & Lamb , HYFFORDDIANT CAMBRIAN, Y SEFYDLIAD CIG, RAPS (UK), TADMARTON PRODUCTS, QUALITY MEAT SCOTLAND (QMS), WEDDEL SWIFT a WORSHIPFUL COMPANY OF BUTCHERS.