Crëwyd tîm uchel ei gymhelliant, hyfforddedig ac uchelgeisiol o ganlyniad i raglen brentisiaethau sydd wedi bod yn rhedeg am naw mlynedd yn y Celtic Manor Resort pum seren enwog yng Nghasnewydd.
Mae’r cyrchfan wedi recriwtio 386 o brentisiaid dros y pum mlynedd diwethaf ac mae’n cyflogi 119 ar hyn o bryd mewn ystod o ddisgyblaethau ar hyd y busnes. Mae wedi ennill sawl anrhydedd sy’n gysylltiedig â’i raglen brentisiaethau.
Erbyn hyn, mae’r Celtic Manor Resort yn un o’r cwmnïau ar y rhestr fer am Wobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cystadlu am deitl Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor Resort, Casnewydd ar 20 Hydref.
Mae’r gwobrau chwenychedig a gyd-drefnir gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cael eu noddi gan Pearson PLC a’u cefnogi gan bartner y cyfryngau, Media Wales.
Mae tri deg o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu arbennig sydd ynghlwm â’r gwaith o gyflwyno rhaglenni sgiliau llwyddiannus ar draws Cymru ar y rhestr fer am Wobrau Prentisiaethau Cymru.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Dyluniwyd y gwobrau i arddangos a dathlu cyflawniadau eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu rhaglenni Hyfforddeiaeth a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Cydnabuodd y Celtic Manor Resort fod angen tîm pum seren arno i ddarparu profiad pum seren i’w westeion. Sefydlodd dîm dysgu a datblygu mewnol ac mae’n gweithio gyda darparwyr hyfforddiant, gan gynnwys Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar ei fframweithiau.
Dywedodd Tracey Israel, pennaeth dysgu a datblygu yn y Celtic Manor: “Mae’r rhaglen brentisiaethau’n cefnogi bwriad y busnes o fagu ein doniau ein hunain trwy feithrin cyfeiriad meddwl lletygarwch cadarnhaol a sicrhau bod pob gweithiwr yn caffael y set sgiliau cywir sydd wedi’u hunioni â safonau’r AA.”
Ar hyn o bryd, mae’r cyrchfan yn darparu 17 fframwaith, sy’n amrywio o Brentisiaethau Sylfaen ac Uwch Brentisiaethau mewn Busnes a Gweinyddu i lefel 2 mewn Tyweirch Chwaraeon ar gyfer ei gwrs golff.
Yn ddiweddar, lansiodd y cyrchfan Raglen Brentisiaethau newydd mewn Gwesty a Lletygarwch o ddwy flynedd a fydd yn recriwtio tair gwaith y flwyddyn.
Yn ogystal â chael mynediad i bortffolio dysgu ychwanegol, trwy weithdai ac e-ddysgu, mae’r prentisiaid hefyd yn troi at ap mewnol sy’n eu galluogi i gyfathrebu a chysylltu.
Dywedodd Chris Bason, o Gwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae cyflwyno platfformau ac apiau e-ddysgu at yr unig ddefnydd o ddatblygu staff a chyfathrebiadau staff yn wych.”
Wrth ganmol safon yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch y Celtic Manor am gael eu cynnwys ar y rhestr fer am wobr, dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Mae’r ymgeiswyr ar y rhestr fer eleni’n cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd ymhellach i gefnogi’r prentisiaid maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon yn parhau i ryfeddu ac ysbrydoli.
“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn gynhwysion hanfodol i lwyddo’n economaidd ac yn offer hollbwysig wrth adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy cyfartal.
“Mae’r gwobrau hyn yn cynnig platfform delfrydol er mwyn dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymunaf bob lwc i bawb ar y noson.”