Mae Ben Roberts, cigydd arobryn, sydd wedi cystadlu yn erbyn goreuon y byd yn ei grefft, yn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd yn ystod ei brentisiaeth i agor siop newydd yn Farndon, ger Caer.
Agorodd Ben, 32, Astley & Stratton Ltd mis diwethaf, gan gymryd lle siop Cigyddion Griffiths oedd wedi ei lleoli ar y Stryd Fawr ers 200 mlynedd. Bu rheolwr blaenorol y siop, Jeremy Turner, yn gweithio yno am 46 o flynyddoedd.
Mae Ben yn edrych ymlaen at ddod â chymysgedd cyffrous o gigyddiaeth arloesol, draddodiadol a modern i’w gwsmeriaid, gan gynnwys prydau parod.
Mae’n canmol cyfres o brentisiaethau a gwblhaodd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru, am ddarparu’r sgiliau, y wybodaeth, y profiad a’r hyder iddo redeg busnes ei hun.
Fel aelod o Dîm Cigyddiaeth Crefft Cymru, enillodd fedal efydd yng nghystadleuaeth Pencampwr Prentis Cigydd yn Her Cigyddion y Byd 2022 yn yr Unol Daleithiau.
“Byddaf yn defnyddio’r wybodaeth rydw i wedi’i dysgu dros y blynyddoedd o weithio mewn siop, gwneud fy mhrentisiaeth a dilyn y tueddiadau diweddaraf i gynnig profiad bwyd cyffrous i’m cwsmeriaid,” meddai Ben. “Gallent ddisgwyl gynnyrch arloesol, yn ogystal â thoriadau traddodiadol.
“Wrth gwblhau prentisiaethau gyda Hyfforddiant Cambrian a chystadlu yn Her Cigyddion y Byd, rwy’n teimlo fy mod i’n barod ar gyfer yr her nesaf o agor siop fy hun.”
Mae prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian wedi chwarae rhan allweddol yn ei ddatblygiad fel cigydd o’r radd flaenaf. Aeth ymlaen o fod yn Brentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgynhyrchu Bwyd i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4), cyn cwblhau Prentisiaeth mewn Rheoli Busnes sydd wedi paratoi’r ffordd iddo redeg busnes ei hun.
Mae rhestr gynyddol Ben o wobrau yn cynnwys Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru a Gwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn 2022 a chael ei benodi’n Llysgennad Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.
“Mi fydda i’n gweithio ar ben fy hun i ddechrau ond dwi’n bwriadu llogi prentis o fewn misoedd. Mae prentisiaethau wedi rhoi sylfaen o wybodaeth, profiad a hyder i mi, yn ogystal â dealltwriaeth o’r gwahanol agweddau ar redeg busnes a chynhyrchu cynnyrch o safon.
“Fy nod hirdymor yw sefydlu fy rhaglen brentisiaethau fy hun yn y siop, fel y gall cigyddion ifanc brofi’r un pethau yr wyf wedi cael y fraint o’u profi yn fy ngyrfa hyd yn hyn.
“Mae’n teimlo fel fy mod i wedi gwneud cylch cyflawn oherwydd dechreuais fy ngyrfa fel ‘butcher’s boy’ yn Holt 18 mlynedd yn ôl, ac rydw i nawr yn dechrau busnes 500 llath dros y ffin Seisnig yr ochr arall i Afon Dyfrdwy,” ychwanegodd Ben, a oedd gynt yn rheoli M. E. Evans Butchers, Overton-on-Dee a Wrecsam.
Mae Arwyn Watkins, OBE, Cadeirydd Gweithredol Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn dymuno llwyddiant i Ben gyda’i fenter fusnes.
“Mae Ben yn enghraifft wych o gynnydd gyrfa gan ddefnyddio rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi’r sgiliau a’r profiad iddo i lansio busnes ei hun,” meddai.
“Mae wedi ymrwymo’n llwyr i’w grefft sy’n cael ei bwysleisio gan ei ymrwymiad i Dîm Cigyddiaeth Crefft Cymru ac yn meincnodi ei hun yn erbyn cigyddion o bob rhan o’r DU ac ar draws y byd.”
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ben Roberts ar 07850 045281 neu Alison Collingridge, Pennaeth Marchnata tîm marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893.
Ewch i wefan Astley & Stratton: https://www.astleyandstratton.co.uk/
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar ein Prentisiaethau Cigyddiaeth.