Mae busnesau ledled Cymru sy’n prosesu ac yn gwerthu pysgod a chregynbysgod, yn cynnwys gweithfeydd prosesu, gwerthwyr pysgod, cownteri pysgod mewn archfarchnadoedd a siopau pysgod a sglodion, yn cael eu hannog i ymglymu wrth brentisiaethau i uwchsgilio’u gweithlu.
Mae Prentisiaethau Pysgod a Chregynbysgod, a gyflwynir ar ran Llywodraeth Cymru gan y darparwr dysgu Cymru gyfan arobryn, Hyfforddiant Cambrian, wedi cael eu cynllunio i helpu cyflogwyr i greu gweithlu ymatebol, medrus, uchel ei gymhelliant i ehangu eu busnes.
Mae prentisiaethau yn gymwysterau cydnabyddedig a gyflwynir ar y cyd â hyfforddiant ymarferol yn y gweithle i wella cynhyrchedd, morâl y staff a’r gyfradd cadw staff. Mae’r rhain ar gael i weithwyr newydd a phresennol o bob oedran yn y sector hwn ac maent yn rhoi cyfle iddynt ddysgu mewn ffordd fwy hyblyg.
Un o brif fanteision prentisiaethau yw bod y prentisiaid yn ennill arian wrth ddysgu, yn ennill cymwysterau cydnabyddedig, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, ac yn cael cyfleoedd dyrchafiad rhagorol
Mae Hyfforddiant Cambrian yn gweithio gyda busnesau o bob maint ar draws Cymru i gyflwyno Prentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) a Phrentisiaethau (Lefel 3) mewn Sgiliau’r Diwydiant Pysgod a Chregynbysgod.
“Mae’r cymwysterau achrededig hyn yn ddelfrydol ar gyfer uwchsgilio’r gweithlu presennol a recriwtiaid newydd ac maen nhw’n fuddiol i fusnesau am eu bod yn gwella cynhyrchedd ac yn rhoi dealltwriaeth well i’r gweithwyr o’u rolau yn y diwydiant,” meddai Chris Jones, pennaeth uned fusnes bwyd a diod Hyfforddiant Cambrian.
“Mae Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i weld mwy o fusnesau pysgod a chregynbysgod ar draws Cymru yn manteisio ar y cymwysterau hyn.”
Cynlluniwyd y Brentisiaeth Sylfaen yn bennaf ar gyfer dysgwyr sydd eisiau datblygu sgiliau a gwybodaeth ganolradd. Mae’r rhain yn cynnwys gweithwyr mewn prosesu pysgod a chregynbysgod, pacio a dosbarthu, gwasanaeth/gwerthu, ffrio pysgod, siopau pysgod a sicrhau ansawdd.
Mae’r cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth eang o dechnegau prosesu awtomataidd ac â llaw, a sgiliau dosbarthu, gwasanaeth ac adwerthu.
Cynlluniwyd y Brentisiaeth ar gyfer dysgwyr sydd eisiau datblygu sgiliau a gwybodaeth uwch, yn cwmpasu arolygu, monitro a rheoli gweithrediadau prosesu ynghyd â gweithrediadau dosbarthu, gwasanaeth a manwerthu.
Mae darpar brentisiaid yn arolygwyr ac yn oruchwylwyr yn y sector prosesu pysgod a chregynbysgod, gwasanaeth/gwerthu a phacio a dosbarthu, ffrio pysgod a siopau pysgod, a thechnegwyr ac arolygwyr sicrhau ansawdd.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan a gymeradwywyd gan Edexcel ar gyfer cyflwyno Prentisiaethau Cynhyrchu Bwyd a Diod. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Os oes diddordeb gan unrhyw un mewn cymryd rhan yn y rhaglen brentisiaeth, boed fel cyflogwr neu brentis, dylent gysylltu â Hyfforddiant Cambrian drwy Ffonio: 01938 555893, drwy E-bost info@cambriantraining.com neu drwy ein Gwefan www.cambriantraining.com