Gydag Wythnos Prentisiaethau ar y gorwel, mae athrawes a mam i dri o blant o Sir Gaerfyrddin yn annog eraill i ystyried dilyn prentisiaeth uwch er mwyn rhoi hwb i’w gyrfa.
Mae Wythnos Prentisiaethau (9-13 Mawrth) yn dathlu effaith bositif prentisiaeth ar unigolion a busnesau ac yn dathlu sgiliau a thalentau prentisiaid ymhlith cyflogwyr a’r cyhoedd.
Mae’r Gymraes Gymraeg, Eirlys Thomas wedi bod yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ers pum mlynedd, ond ar ôl cael ei dyrchafu’n Bennaeth Blwyddyn, cafodd gynnig i ddilyn prentisiaeth uwch mewn rheolaeth ganol er mwyn datblygu ei sgiliau ar gyfer ei swydd newydd.
Meddai Eirlys, “Er i mi fod yn athrawes am 16 mlynedd, pan gefais ddyrchafiad i fod yn Bennaeth Blwyddyn, sylweddolais fy mod yn wynebu nifer o dasgau newydd a oedd yn herio fy sgiliau a’m profiad presennol.
“Wyddwn i ddim bod prentisiaethau ar gael ar gyfer athrawon ysgol, felly pan awgrymodd Euryn Madoc-Jones, ein rheolwr hyfforddiant, fy mod yn gwneud prentisiaeth Lefel 5 mewn Rheolaeth Ganol gyda Cambrian Training, achubais ar y cyfle i wella fy sgiliau.”
Mae Eirlys yn un o’r cohort cyntaf o brentisiaid i ymuno â Chwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM, cwrs arloesol sy’n cael ei gyflwyno am y tro cyntaf mewn lleoliad addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegodd Eirlys, “Mae’r cwrs yn dysgu amrywiaeth eang o sgiliau newydd i mi ym maes dadansoddi data, ac arweinyddiaeth a rheolaeth sydd yn helpu i mi fagu hyder ac yn rhoi’r profiad a’r cymwysterau i mi ddatblygu yn fy ngyrfa.”
Er bod cyfuno dyletswyddau astudio ar gyfer y brentisiaeth â’i swydd llawn amser a gofalu am dri o blant yn gallu bod yn dipyn o her ar brydiau, mae Eirlys yn hyderus y bydd y brentisiaeth yn rhoi cymwysterau a sgiliau iddi ar gyfer datblygu ei gyrfa ymhellach.
Meddai Eirlys, “Rwyf wrth fy modd yn gwneud y brentisiaeth ac er ei bod yn anodd cael digon o amser weithiau i gyflawni popeth sydd ei angen, rwyf eisoes yn gweld fy mod yn defnyddio llawer o’r sgiliau rwyf wedi’u hymarfer a’u dysgu wrth fy ngwaith bob dydd. Ar ben hynny, rwyf wedi gallu dilyn y brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n dangos bod Prentisiaethau Uwch yn boblogaidd dros ben bellach, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 3,320 wedi cychwyn mewn Uwch Brentisiaethau yn 2013/14 o gymharu â 2,275 yn 2012/2013 a dim ond 280 yn 2011/12.
Dywedodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Yng Nghymru, mae nifer y rhai sy’n cychwyn prentisiaeth ar gynnydd ac rwyf wedi fy nghalonogi o weld cymaint o bobl ifanc yn gwireddu’r manteision sydd i’w cael wrth astudio ar gyfer y cymhwyster hwn a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol. Rwyf hefyd wrth fy modd fod cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
“Mae prentisiaethau’n ffordd ymarferol o ennill cyflog a datblygu sgiliau gwerthfawr y gallwch eu trosglwyddo i bobman ym myd gwaith. Maent ar gael ar draws amrywiol sectorau, ac mae prentisiaethau wedi’u cynllunio gyda chymorth cyflogwyr fel bod ganddynt raglen drefnus sy’n eich tywys drwy’r sgiliau hynny sydd eu hangen arnoch i wneud y swydd honno.
“Mae Wythnos Prentisiaethau yn rhoi sylw i’r effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau’n ei chael ar unigolion, ar fusnesau ac ar yr economi ehangach. Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cefnogaeth i fusnesau sy’n ystyried cyflogi prentis, gan gynnwys cymorth gyda chostau hyfforddiant ac asesu.”
Wrth i Wythnos Prentisiaethau agosau, mae Llywodraeth Cymru’n cynnal ymgyrch i annog rhagor o fusnesau i ystyried prentisiaethau ar gyfer staff ac annog sefydliadau bach a mawr ar draws yr amrywiol sectorau i gefnogi recriwtio prentisiaid.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.