Achosodd Peter Rushforth, sef cigydd 19 oed dawnus, gynnwrf trwy guro pencampwr y llynedd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru 2014 yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, ar ddydd Mawrth.
Llwyddodd Peter o Swans Farm Shop, Treuddyn, Yr Wyddgrug, a gymerodd ran yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf y llynedd, i greu argraff ar y beirniaid gyda’i doriadau arloesol o gig gan guro Matthew Edwards, 22 oed, sy’n gweithio i S.A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, gan ddau bwynt yn unig.
Roedd disgwyl i’r cyn bencampwr, Tomos Hopkins, 21 oed, o Gwyrhyd Mountain Meat, Rhiwfawr, ger Abertawe. gystadlu, ond bu rhaid iddo dynnu’n ôl ar noswyl y gystadleuaeth er mwyn paratoi am lawdriniaeth ar ei ben-glin.
Trefnir y gystadleuaeth gan y darparwyr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, o’r Trallwng ac fe’i noddir ar y cyd gan Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales a’r busnes cig yn y Trallwng, WMO.
Disgrifiodd Chris Jones, pennaeth y cwricwlwm cynhyrchu bwyd i Gwmni Hyfforddiant Cambrian, fod safon y gystadleuaeth yn eithriadol o uchel.
“Mae’r gwelliant yn lefel sgiliau Peter ers llynedd wedi bod yn wych a gallwch ddweud ei fod wedi ymarfer llawer, sydd wedi talu ffordd,” ychwanegodd. “Roedd yn gwybod yn union beth roedd yn ei wneud gyda phob cynnyrch a wnaeth a sgoriodd yn uchel am arloesedd.
“Creodd gynhyrchion nad oeddwn i wedi’u gweld o’r blaen ac roedd ei arddangosfa mor lân a thaclus. Mae’r gystadleuaeth yn gwella bob blwyddyn ac roedd yno gigyddion profiadol yn y gynulleidfa oedd yn methu credu’r hyn roedd Peter a Matty wedi’i gynhyrchu mewn dwy awr.
“Sgoriodd Matty farciau uwch na phan enillodd y gystadleuaeth llynedd, sy’n dangos pa mor dda oedd y safon.”
Dywedodd Peter ei fod wrth ei fodd o ennill yn erbyn y gystadleuaeth gan bencampwr y llynedd. “Cyfarwyddyd y gystadleuaeth oedd arloesedd ac ychwanegu gwerth at ddarnau o gig,” esboniodd. “Roedd a wnelo’r cyfan ag ysbrydoli cwsmeriaid iau i brynu cynhyrchion newydd gan ddefnyddio dulliau cigyddiaeth hen a newydd.
“Un o’m cynhyrchion oedd coron brisged rost. Rholiais y cig a’i stwffio â chennin i ychwanegu gwerth, a pharatois ddarn wedi’i rolio mewn briwsion blas stecen grawn pupur a chlustog o gyw iâr wedi’i stwffio â brest hwyaden a hagis.
“Daw tipyn o’r syniadau yn sgil rhoi cynnig ar bethau yn y siop gyda Clive ac rwy’n cael fy ysbrydoli o siopau cigyddion eraill hefyd. Mae Clive yn fentor da iawn ac mae’n annog cigyddion ifanc i gystadlu.”
Flwyddyn nesaf, bydd Peter yn dilyn olion traed Matthew trwy gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd a bydd yn cynrychioli Cymru hefyd yng nghystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd yn yr NEC, Birmingham.
Er bod Matthew wedi siomi o golli ei deitl, mae’r flwyddyn wedi bod yn un gofiadwy iddo gan iddo gystadlu dros Brydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd yn y Swistir ym mis Medi ac enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru ym mis Hydref.
Heriwyd y ddau gigydd i ddarnio brisged o Gig Eidion Cymreig, ysgwydd o borc Cymreig, cyfrwy cyfan o Gig Oen Cymreig gyda brest a chyw iâr gyfan Gymreig Cefn Llan yn doriadau o’u dewis a oedd yn ychwanegu gwerth ac ansawdd gwerthadwy.
Y beirniaid oedd y cyn bencampwr Tom Jones, o Jones’ Butchers, Llangollen a Philip Hughes o Hughes Butchers, San Clêr. Gweithredodd Chris Jones fel ymgynghorydd i’r beirniaid oedd yn chwilio am syniadau creadigol, technegau torri ac arddangos, gwerth ychwanegol, diogelwch bwyd a hylendid personol, yr uchafswm cynnyrch o’r carcas a chynnwys sgiliau.
Y cigydd buddugol, Peter Rushforth, gyda Terry Jones, cyfarwyddwr twf a datblygiad busnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Y cigydd buddugol, Peter Rushforth (dde) gyda Matthew Edwards (chwith) a ddaeth yn ail a Terry Jones, cyfarwyddwr twf a datblygiad busnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Cysylltwch ag Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian am fwy o wybodaeth ar Ffôn: 01938 555993 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar 01686 650818.