Pen cogydd prentis sydd wedi ennill gwobrau yn dathlu rysáit ar gyfer llwyddiant

Mae’r pen cogydd prentis Thomas Martin, sydd wedi profi gwaith mewn rhai o fwytai ‘bwyta mewn steil’ gorau Llundain, wedi dathlu’r rysáit ar gyfer llwyddiant wrth iddo
gasglu gwobr genedlaethol o fri.

Cafodd Thomas, 22, cogydd cynorthwyol yn 13 Market Street, Caerffili, ei enwi’n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru o fri a gynhaliwyd yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd. Cafodd y wobr ei noddi gan Grŵp Colegau NPTC.

Dywedodd “Rwyf uwch ben fy nigon. Mae’r wobr hon yn golygu cymaint i mi. I mi, dyma’r cam nesaf yn fy ngyrfa a dymunaf fod yn bencampwr pen cogydd yng Nghymru, fy ngwlad fabwysiedig.

“Rwy’n gwybod beth rwyf ei eisiau yn y dyfodol ac rwy’n barod i wneud y gwaith caled. Ond ni fuaswn lle’r ydwyf yn awr heb gefnogaeth ac anogaeth Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a roddodd y gred i mi.
Diolchodd hefyd i’w ddyweddi Jaimie McSweeney am ei hanogaeth a chefnogaeth pan oedd yn hiraethu am adref wrth weithio yn Llundain.

Dyluniwyd y gwobrau blynyddol i arddangos a dathlu llwyddiannau eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad Rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddeiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn trefnu’r gwobrau o fri ar y cyd, â chefnogaeth Media Wales y partner yn y cyfryngau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r Rhaglen Brentisiaeth gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Thomas yn dilyn llwybr gyrfa y mae’n gobeithio y bydd yn arwain ato’n cyflawni ei uchelgais o agor ei fwyty ei hun yng Nghaerdydd i hyrwyddo’r cynhwysion Cymreig gorau.

Ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol â’r darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mae’n bwriadu symud ymlaen i Brentisiaeth y flwyddyn nesaf.

Yn gynharach eleni, cafodd ei wobrwyo am ei angerdd ac ymroddiad i ddysgu pan enwyd ef yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac roedd y gorau ond un yng nghystadleuaeth Pen Cogydd Ifanc y Flwyddyn Cymru.

Mae wedi gweithio yng Ngwesty Holm House, Penarth, Bwyty a Gwesty Gwledig ,Manor Parc, Caerdydd, Chapel 1887, Caerdydd yn ogystal â Stadiwm y Principality fel aelod o’r tîm arlwyo ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y llynedd.

Roedd ei brofiad gwaith yn Llundain yn cynnwys ysbeidiau ym mwyty Gordon Ramsay, Le Gavroche Michel Roux Junior, Marcus Wareing at the Berkley, Outlaw’s at the Capital bwyty Nathan Outlaw World’s End Market, Chelsea.

“Roedd yn brofiad gwych s phwy na fyddai’n bachu’r cyfle i weithio mewn tri bwyty â sêr Michelin yn 20 neu 21 oed,” meddai. “Newidiodd y profiad yr hyn roeddwn ei eisiau o’m gyrfa a gwnaeth y llwybr y mae angen i mi fynd i lawr llawer yn gliriach.

“Fy uchelgais yw cael fy mwyty fy hun yng Nghaerdydd sy’n hyrwyddo cynhwysion Cymreig. Rwyf eisiau chwifio’r faner dros Gymru.”

Yn wreiddiol roedd Thomas yn bwriadu bod yn saer pan adawodd yr ysgol cyn darganfod angerdd ar gyfer coginio, a chred fod ei brentisiaeth wedi rhoi’r hyder iddo
weithio yn Llundain.

Llongyfarchodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan Thomas ynghyd ag enillwyr eraill y gwobrau a’r rheiny a gyrhaeddodd y rownd derbynol am
osod y safon aur ar gyfer Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau.

Gwnaeth hi ei ddisgrifio fel “unigolion eithriadol” a oedd yn rhagori yn ei gweithle a chanmolodd ei ymrwymiad i’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried Prentisiaethau fel maes blaenoriaeth a, gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae wedi ymrwymo i greu o leiaf
100,000 Prentisiaeth pob oed o ansawdd uchel dros y tymor Cynulliad hwn,” meddai’r Gweinidog.

“Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion busnesau Cymru, datblygu llwybrau sgiliau a chynyddu sgiliau lefel uwch sydd o fudd i Gymru gyfan. Os bydd economi Cymru yn parhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni weithio â’n gilydd i roi gweithlu o’r radd flaenaf i Gymru.”
.
Capsiwn y llun:

Thomas Martin yn derbyn ei wobr oddi wrth Nicola Thornton-Scott, Pennaeth Cynorthwyol Grŵp Colegau NPTC.