- Maen nhw’n rhoi hwb i’ch hyder a’ch perfformiad yn y gwaith, coleg, ysgol neu brifysgol
Nid yn unig y mae cystadlu’n gwella’ch hyder personol, mae’n gwella’ch hyder i gyflawni’ch sgiliau’n dda, ac yn eich cymell i ymdrechu’n galetach i fod mor dda ag y gallwch. Hwyrach y cewch gyfle hefyd i gwrdd ag arbenigwyr o’r radd flaenaf yn eich maes, i’ch helpu i wella.
- Cyfle i ddangos eich dawn i ddarpar Gyflogwyr
Cynigia WorldSkills gyfle heb ei ail i chi, sef y cyfle i arddangos eich gallu i ddarpar Gyflogwyr.
- Datblygu CV cryfach
Mae dangos eich bod wedi cymryd eich sgil i gystadleuaeth yn dangos lefel o hyder a gallu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud!
- Mae’n cyflwyno cyfleoedd diddiwedd
O ddenu darpar Gyflogwyr, i deithio’r byd i gystadlu – nid ydych chi byth yn gwybod ble fydd eich sgiliau’n eich tywys.
- Teithio’r byd
Os symudwch chi ymlaen trwy’r rowndiau Cenedlaethol, gallech gael y cyfle i deithio o gwmpas y byd am hyfforddiant ac i gystadlu mewn rownd derfynol (sydd mewn gwlad wahanol bob blwyddyn!).
- Cynrychioli’ch Gwlad
Mae gennych gyfle i fod yn llysgennad i’ch gwlad ar lwyfan byd-eang.
Wyddoch chi?
Credodd 95% o gyn ymgeiswyr WorldSkills UK fod cymryd rhan yn y cystadlaethau, ar unrhyw lefel, wedi gwella’u sgiliau technegol a chyflogadwyedd, gyda 93% yn datgan bod cymryd rhan wedi’u galluogi i ddatblygu CV cryfach (https://www.worldskillsuk.org/).
Chwilio am Gystadlaethau
Edrychwch ar ein tudalen Cystadlaethau i chwilio am Gystadlaethau sydd ar ddod: https://www.cambriantraining.com/wp/en/competitions-events/