Estynnir gwahoddiad i brentisiaid o bob cwr o’r DU roi eu sgiliau ar brawf a chofrestru gyda WorldSkills UK a chystadlu i brofi bod ganddynt y ddawn i gael eu galw’r gorau mewn Cigyddiaeth.
Wrth i Brexit prysur agosáu a’r bwlch sgiliau ledu yn y DU, bydd Cystadlaethau WorldSkills UK yn cyflwyno’r ymgyrch sgiliau fwyaf, gan ddathlu doniau’r prentisiaid cyfredol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i broffesiynau medrus.
Gall cyflogwyr ddefnyddio’r Ardoll Brentisiaethau, sydd wedi’i dylunio i safonau diwydiant llym ac a gynhelir mewn dros 50 o wahanol feysydd sgiliau i gefnogi ymwneud eu prentis yng Nghystadlaethau WorldSkills UK.
Dywedodd Dr Neil Bentley, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Gwyddwn fod Cystadlaethau WorldSkills UK yn helpu prentisiaid i fynd ymhellach, yn gynt yn eu gyrfaoedd. Profwyd bod y gweithgaredd yn gwella gwybodaeth a sgiliau cyflogadwyedd person ifanc, sy’n darparu’r sgiliau iawn iddynt helpu busnesau’r DU i gystadlu’n well ar raddfa fyd-eang.”
Bydd y prentisiaid sy’n llwyddiannus yn y rowndiau Cymhwysol Cenedlaethol, sef cam cyntaf Cystadlaethau WorldSkills UK, yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol a gynhelir yn y Sioe Sgiliau o 15 i 17 Tachwedd yn yr NEC, Birmingham.
Er mwyn cyflwyno’ch prentis i Gystadleuaeth WorldSkills UK mewn Cigyddiaeth, cofrestrwch yn www.worldskillsuk.org o 1 Mawrth tan 7 Ebrill, 2018.