Bydd unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni hyfforddiant prentisiaethau, sgiliau a chyflogaeth, a gyflwynwyd gan un o gwmnïau hyfforddiant gorau Cymru, yn cael eu cydnabod y gwanwyn hwn. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a chanddo swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, bellach yn derbyn enwebiadau am ei Wobrau Prentisaeth, Cyflogaeth a… Read more »
Dywed ffigwr blaengar yn y sector dysgu yn y gwaith yng Nghymru iddo deimlo anrhydedd enfawr o gael ei wobrwyo ag OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei wasanaethau i addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, yn eithriadol o falch fod y wobr yn… Read more »
Mae Haddon Training yn hapus i gyhoeddi eu bod wedi cael caniatâd i gyflwyno Lefel 4 yn y Brentisiaeth Ceffylau ledled Cymru! Dyma newyddion gwych i bobl sydd wedi cwblhau eu prentisiaeth Lefel 3 ac sy’n chwilio am y cam nesaf. Mae gan Haddon Training 20 mlynedd o brofiad gyda phrentisiaethau yn y diwydiant ceffylau,… Read more »
Mae technegydd plastigion mewn canolfan ailgylchu yng Ngogledd Cymru’n elwa ar ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyflwyno prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflogir Dafydd Emrys, sy’n 34 oed, yn safle Caergylchu’r fenter gymdeithasol Antur Waunfawr yng Nghaernarfon. Mae Dafydd ar y sbectrwm awtistig a chanfu ei fod yn cael trafferth gwneud ei waith yn Saesneg pan… Read more »
Profodd Daniel Raftery, cigydd dawnus o Ganolbarth Cymru, mai ef oedd brenin y cigyddion yn rownd derfynol yr ornest genedlaethol yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol ddydd Llun. Llwyddodd Daniel, sy’n 34 oed ac yn lladdwr anifeiliaid gradd A yn Randall Parker Foods, Dolwen, Llanidloes, i wrthsefyll cystadleuaeth gref gan ddau arall i ennill teitl… Read more »
Coronwyd James Taylor o Simpsons Butchers, Swydd Lincoln, yn bencampwr cystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills 2017. Mae’r fuddugoliaeth yn cloi blwyddyn aruthrol i’r cigydd ifanc, a enwyd yn Gigydd Ifanc y Flwyddyn Marco Peerdeman y Meat Trades Journal ym mis Tachwedd a chynrychiolodd Prydain yng Nghystadleuaeth y Cigydd Ifanc Rhyngwladol ym Awstria. “Rydw i’n falch iawn o’r fuddugoliaeth,… Read more »
Dydi’r cigydd o fri, Peter Rushforth, ddim wedi edrych yn ôl ers iddo ddewis dilyn prentisiaeth yn lle mynd i’r brifysgol ac yn awr mae wedi ychwanegu gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn at ei gasgliad o wobrau. Cyflwynwyd y wobr i Peter, 22 oed, o Goed-llai, yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty… Read more »
Mae’n bleser gennym gyhoeddi fod Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi’i ddewis i fod yn Rownd Derfynol Gwobrau Cynaliadwyedd ac Adnoddau CIWM – yng Nghategori Gwobr Dysgu a Datblygu Roger Hewitt. Mae’r Gwobrau Cynaliadwyedd ac Adnoddau’n rhai hirsefydlog ac uchel eu parch, a roddir dim ond am gyflawniadau eithriadol yn y diwydiant cynaliadwyedd, adnoddau a gwastraff. Mae’r… Read more »
Dydi Peter Rushforth ddim wedi edrych yn ôl ers iddo ddewis dilyn prentisiaeth mewn cigyddiaeth yn lle mynd i’r brifysgol. Y llynedd, enillodd Peter, 22 oed o Goed-llai, fedal aur WorldSkills UK am gigyddiaeth a theitl Cigydd Ifanc y Flwyddyn gan y Meat Trades Journal. Bu hefyd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig mewn Cystadleuaeth Ewropeaidd i… Read more »