Mae bachgen yn ei arddegau yng Ngogledd Cymru wedi mynd o olchi sosbenni i fod yn gogydd medal aur mewn tair blynedd ar ôl cofrestru i ddilyn prentisiaeth mewn coginio proffesiynol. Enillodd Joseph Lloyd, 19 oed, o Drelawnyd, ger y Rhyl, y fedal aur am ei brif gwrs Cig Oen Cymru gorau yn y dosbarth… Read more »

Mae deunaw cyflogwr a dysgwr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaeth, sgiliau a hyfforddiant cyflogaeth a gyflwynwyd gan un o gwmnïau hyfforddiant gorau Cymru wedi’u cynnwys ar restr fer am wobrau. Bydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a chanddynt swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, yn cyflwyno’i Wobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol yn… Read more »

Estynnir gwahoddiad i brentisiaid o bob cwr o’r DU roi eu sgiliau ar brawf a chofrestru gyda WorldSkills UK a chystadlu i brofi bod ganddynt y ddawn i gael eu galw’r gorau mewn Cigyddiaeth. Wrth i Brexit prysur agosáu a’r bwlch sgiliau ledu yn y DU, bydd Cystadlaethau WorldSkills UK yn cyflwyno’r ymgyrch sgiliau fwyaf,… Read more »

Cyflawnodd y cogydd dawnus Arron Tye un o uchelgeisiau ei yrfa pan dderbyniodd tlws Cogydd Iau Cymru neithiwr (nos Iau). Cipiodd y chef de partie 23 oed o Westy Carden Park, Caer ac sy’n gapten ar Dîm Coginio Iau Cymru, y teitl hynod ddymunol ar ôl rownd derfynol agos ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC) … Read more »

Ar adeg pan fo cefnogwyr rygbi Cymru mewn ing o hyd yn dilyn gorchfygiad dadleuol y Saeson ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Twickenham ddydd Sadwrn diwethaf, cafodd Gymru ragor o siom ddoe (dydd Iau). Daeth y ddwy wlad benben â’i gilydd eto, y tro hwn wrth i gogyddion ifanc dawnus gystadlu yng ngornest goginio’r… Read more »

Achos o dri chynnig i Gymro oedd hi i’r cogydd dawnus Tom Westerland a goronwyd yn Gogydd Cenedlaethol Cymru neithiwr (nos Iau). Ar ôl dod yn agos at ennill y teitl yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, dathlodd y prif gogydd 26 oed yng Ngwesty Lucknam Park, Colerne, fuddugoliaeth y tro hwn, a hynny mewn… Read more »

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn annog cyflogwyr i ddangos ychydig o gariad a gofal i’w gweithwyr ar ddydd Sant Ffolant trwy roi’r rhodd o ddysgu iddynt. Dyma’r adeg ddelfrydol o’r flwyddyn i gyflogwyr fuddsoddi mewn prentisiaid er mwyn rhoi i’w busnesau’r sgiliau y mae arnynt eu hangen nawr ac yn y dyfodol. Mae’r Rhaglen Gymhelliant… Read more »

Galwn allan am BOB cigydd prentis 18 i 23 oed wrth inni chwilio am Brif Gigydd Ifanc 2018. Bydd y gystadleuaeth pedair awr, chwe chategori, a lwyfennir yn y FOODEX yn yr NEC yn Birmingham ar 16 Ebrill 2018, yn profi sgiliau crefft y cystadleuwyr i’r eithaf. Yma bydd y beirniaid yn asesu ac yn… Read more »

Mae pobydd ifanc o Gaerdydd yn mynd i deithio i Ddenmarc i ddysgu am holl gyfrinachau pobi yn y ffordd Ddanaidd draddodiadol. Gweithia Becky Chatfield fel prentis ym mhopty poblogaidd Brød ym Mhontcanna, a sefydlwyd gan yr alltud o Ddenmarc, Betina Skovbro, lle caiff ei hyfforddi gan Hyfforddiant Cambrian, sef darparwr hyfforddiant blaengar yn y… Read more »