Dangosodd cigydd o’r gororau pwy oedd biau’r fwyell yn rhagbrawf Cymru a Lloger o gystadleuaeth fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK yn Birmingham ddoe (dydd Mawrth). Peter Smith, sy’n gweithio i Jamie Ward Butchers, Yr Ystog, oedd yn fuddugol gan lai na hanner marc yn dilyn y rhagbrawf brwd o ran y cystadlu yng Ngholeg Prifysgol Birmingham.… Read more »

Bydd tri chigydd o Gymru’n profi eu sgiliau yn Birmingham ar ddydd Mawrth wrth iddynt gynnig am le yn rownd derfynol cystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK. Coleg Prifysgol Birmingham yw lleoliad rownd Cymru a Lloegr a fydd yn gweld pedwar cigydd dawnus ar waith – Craig Holly o Neil Powell Butchers, Y Fenni, Peter Smith… Read more »

Enillwyd rownd Gogledd Iwerddon cystadleuaeth fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK gan Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats, Clogher, Tyrone. Mae Dylan, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cigyddiaeth WorldSkills UK dros y tair blynedd diwethaf, wedi rhoi ei enw ymlaen unwaith eto i gymhwyso am y rownd derfynol eleni yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham… Read more »

Bydd helfa genedlaethol yn dechrau yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos nesaf i ddod o hyd i gigydd gorau’r DU, lle cynhelir dau ragbrawf o gystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK. Lleoliad y gystadleuaeth ar ddydd Mawrth 5 Mehefin fydd y Southern Regional College yn Newry ar gyfer rhagbrofion Gogledd Iwerddon a fydd yn gweld chwe chigydd… Read more »

Bydd y darparwr hyfforddiant arobryn ledled Cymru, sef Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn agor swyddfa newydd ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt. Mae’r cwmni, sydd â phencadlys yn y Trallwng a swyddfeydd yng Nghaergybi, Bae Colwyn a Llanelli, wedi sicrhau prydles ar hen Bafiliwn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar faes y sioe yn dilyn proses… Read more »

Mae Albert Roux OBE ar y rhestr fer am ddwy wobr – Llun gan Richard Vines Mae rhestr fer rownd derfynol y Gwobrau Mentor-gogyddion cyntaf erioed wedi’i chyhoeddi, ac arni enwau uchel eu proffil ar draws y sectorau bwytai, gwestai, arlwyo ac addysg. Bydd y gwobrau a gynhelir yn y Celtic Manor fel rhan o’r… Read more »

Mae helfa genedlaethol wedi’i lansio i ddod o hyd i gigyddion dawnus sydd ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill i ddilyn yn olion traed James Taylor o Swydd Lincoln. Enillodd James, sy’n gweithio i G Simpson Butchers yn Heckington, gystadleuaeth Cigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK fis Tachwedd diwethaf ac mae ei olynydd yn cael ei chwilio amdano… Read more »

Mae unigolyn blaenllaw yn y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi sôn am ei brofiad “syfrdanol” o dderbyn OBE gan y Tywysog Wiliam ym Mhalas Buckingham yn gynharach yn y mis. Disgrifiodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, y seremoni fel “cyfle unwaith mewn bywyd” fyth yn aros yn… Read more »

Cydnabuwyd cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn prentisiaethau, rhaglenni hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth gan un o gwmnïau hyfforddiant gorau Cymru mewn seremoni wobrwyo flynyddol nos Fercher. Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, ei ail seremoni Wobrwyo Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau flynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol… Read more »