I ddathlu ein Bwyd Môr Cymreig gwych a’ch helpu i greu bwyd blasus yn y gegin i chi a’ch teulu, beth am roi cynnig ar y rysáit wych hon o Gregyn Gleision Cymreig mewn Cwrw Cymreig. Dyma ganllaw cam-wrth-gam i baratoi a choginio’r saig Bwyd Môr wych hon: Cynhwysion 75g o fenyn 2 Foronen (wedi’u… Read more »
Dim ond mis ar ôl iddi gychwyn ar ei Phrentisiaeth Uwch, roedd rhaid i Lee Price ymdopi â marwolaeth Rob, ei gŵr ers 36 o flynyddoedd. Cafodd anogaeth a chefnogaeth i barhau â’r hyfforddiant gan ei chydweithwyr, ei chyflogwr, ei darparwr hyfforddiant a’i theulu a llwyddodd i gwblhau’r cymhwyster naw mis yn gynnar er eu… Read more »
Capsiwn y llun: Y Cyfarwyddwr Elen Rees, y rheolwr marchnata Katy Godsell, a’r cydlynydd gweithgareddau ‘rhoi cynnig arni’ Vicky Watkins o Hyfforddiant Cambrian Training yn cyflwyno’r offer pêl-rwyd a hoci i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caereinion dan ofal y prifathro Philip Jones a’r athrawes addysg gorfforol, Catrin Jones. Mae gan y timau pêl-rwyd a hoci sy’n… Read more »
Rownd Derfynol Gwobrau Prentisiaeth Cymru: Becws Brød yn cael blas ar lwyddiant diolch i Brentisiaid
Dydi becws a siop goffi Daneg poblogaidd yng Nghaerdydd, Brød, ddim wedi edrych yn ôl ers iddynt gyflogi eu prentisiaid cyntaf yn fuan ar ôl agor y busnes bedair blynedd yn ôl. Sefydlwyd Brød (The Danish Bakery Ltd), ar Wyndham Crescent yn ardal Pontcanna, gan Betina Skovbro. Ar hyn o bryd mae gan y busnes… Read more »
Mae dyfodiad prentisiaid i gwmni dŵr ffynnon a diodydd meddal Radnor Hills o Bowys yn 2017 wedi cael “effaith wirioneddol drawsnewidiol” ar y gweithwyr a thwf y busnes. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 181 o bobl yn Heartsease, ger Trefyclo, wedi gweld twf o 20 y cant yn y busnes yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn cynnwys… Read more »
Mae Andrew Bennett, sydd yn rownd derfynol y Gwobrau, yn benderfynol o beidio â gadael i ddyslecsia na’r ffaith ei fod wedi colli ei olwg mewn un llygad ei rwystro rhag cael gyrfa lwyddiannus. Mae’r Cynghorydd Ailgylchu 51 oed o Abergele wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, mae’n gweithio ar Brentisiaeth ac mae… Read more »
Trwy ymrwymo i brentisiaethau, mae gwesty, bar a bwyty annibynnol ar lannau Bae Ceredigion yn llwyddo i gynnal gweithlu o 40 o weithwyr medrus a brwd. Nod Gwesty’r Harbourmaster yn Aberaeron, sydd â 13 o ystafelloedd gwely moethus, boutique, yw cynnig gofal ardderchog i’w gwsmeriaid a phrofiad rhagorol i ymwelwyr er mwyn cynnal yr enw… Read more »
NUS Apprentice Extra yw’r cerdyn gostyngiadau i Brentisiaid y DU, gan helpu’ch arian anodd ei ennill i ymestyn ychydig ymhellach! Mae NUS Apprentice Extra yn rhoi gostyngiad ar rai o’ch hoff frandiau, yn y siopau ac ar-lein. Crëwyd y cerdyn gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) ac felly mae’r arian a godwyd yn gwerthu’r cerdyn… Read more »
Mae staff o un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru wedi rhedeg, cerdded a beicio 1,225 o filltiroedd ers dechrau’r flwyddyn i godi arian at Ymchwil Canser. Mae’r cwmni sydd wedi ennill gwobrau, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn wedi rhagori ar ei darged o deithio 1,000 o filltiroedd ond… Read more »