Yn ddiweddar, mae Neil Challenger wedi sefydlu ei gwmni ei hun yn 27 oed, ond mae’n nodi bod y rhaglenni prentisiaeth a gwblhaodd drwy’r darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymreig, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, wedi “rhoi hwb i’m bywyd i’r cyfeiriad cywir”.

Mae’r entrepreneur uchelgeisiol wedi canfod ei alwad â Challenger Design ar ôl gyrfa waith pan mae wedi ymgymryd â rolau o waith ffatri i fod yn gynrychiolydd gwyliau Butlins.

Erbyn hyn mae’n helpu busnesau lleol yng Nglyn-nedd a thu hwnt â dylunio a datblygu gwefannau, gwe-letya a brandio, ac mae’n dweud mai ei benderfyniad ef oedd dechrau dysgu galwedigaethol a ddatblygodd yr hyder iddo fynd ar ei ben ei hun yn ddiweddarach.

“Rwy’n credu mai prentisiaethau yw’r ffordd orau o ddysgu,” meddai Neil. “Mae dysgu yn y gwaith yn fwy effeithiol, ac mae’n eich gwneud yn well yn y gwaith. Cael y cyfarwyddyd y tu ôl i brentisiaeth a dadansoddi pam eich bod yn gwneud rhai agweddau penodol ar rôl swydd a phryd, heb amheuaeth, yw’r ffordd orau o ddysgu swydd.

Erbyn hyn mae Neil wedi cwblhau Lefel 2 a 3 mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid, ar ôl gweithio mewn rolau tebyg yn flaenorol.

“Roedd y gallu i ddadansoddi pob agwedd ar wasanaethau i gwsmeriaid yn fy annog i ddeall pam yr oeddwn yn wynebu sefyllfaoedd penodol a dysgodd i mi sut i ddelio â nhw’n gywir ac yn effeithlon.

“Yn sicr mae fy nysgu galwedigaethol wedi fy ngwneud i’n unigolyn mwy hyderus wrth ddelio â chwsmeriaid a gwybod sut i ddelio â sefyllfaoedd pan fyddan nhw’n codi.”

Wrth i’w fusnes ddatblygu, mae Neil yn bwriadu cynyddu ei allu personol trwy ymgymryd â chwrs Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT), rhaglen y mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CTC) yn ei gyflwyno am y tro cyntaf.

“I mi, cyfrifyddu mewn busnes yw’r agwedd anoddaf i mi,” eglurodd. “Rwyf wedi gwneud llawer o gyrsiau i ddeall hyn, ond ni welais erioed ddatblygiad enfawr yn fy ngallu. Ar ôl elwa cymaint trwy ddysgu’r rôl gwasanaethau i gwsmeriaid, credaf fod ennill y cymhwyster hwn yn hanfodol ar gyfer fy nealltwriaeth o’r agwedd cyfrifyddu ar fy musnes.

“Roedd hunangyflogaeth bob amser yn nod i mi, a thrwy gael y sgiliau a’r hyder yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi penderfynu manteisio ar y cyfle, felly bydd cymhwyster fel yr AAT dim ond yn gallu rhoi hwb i’m sgiliau personol fy hun i helpu’r busnes i ffynnu.”

Gyda chyflogwyr ar hyd a lled y wlad yn troi at ddysgu yn y gwaith mewn niferoedd cynyddol, roedd gan Neil air o gyngor i unrhyw un sy’n ystyried prentisiaeth.

“Yn sicr, ennill gwybodaeth a chymwysterau yn y gwaith yw’r ffordd orau o ddeall rôl swydd o bob ongl. Buaswn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried gwneud prentisiaeth i fynd yn ei flaen a mwynhau’r profiad yn syml. ”

Dywedodd fod ei berthynas â CTC wedi bod yn “ardderchog” a disgrifiodd ei swyddog hyfforddi, Sheila Coles, fel “mentor gwych”.

“Rydw i wedi ennill ffrind yn ogystal â rôl-fodel yn Sheila,” meddai Neil. “Pryd bynnag roedd angen help arnaf ag unrhyw beth, boed yn gysylltiedig â gwaith, yn gysylltiedig ag addysg neu hyd yn oed yn faterion personol, mae hi wedi bod yno i mi. Yn sicr, mae Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn ffactor o bwys wrth i mi gymryd siawns a dod yn fos arnaf fi fy hun a hefyd tuag at y llwyddiant a gefais mor gynnar. ”

Ond yn sicr nid yw cynnydd Neil yn beth annisgwyl i’w swyddog hyfforddi, ychwanegodd Sheila: “Mae egni a phenderfyniad Neil bob amser wedi creu argraff arnaf felly nid oedd yn syndod pan ddywedodd wrthyf ei fod yn mynd yn hunangyflogedig. Edrychaf ymlaen at gydweithio ag ef ar gam nesaf ei daith ddysgu trwy’r cwrs AAT. ”

Challenger Design: www.challengerdesign.co.uk

#BreuddwydioDysguByw