Mae’r darparwr dysgu yn y gwaith, Hyfforddiant Cambrian, yn gweithio’n agos gyda’r ffatri prosesu cig a’r lladd-dy mwyaf yng Nghymru i ddarparu prentisiaethau wedi’u teilwra at anghenion y cwmni er mwyn datblygu cigyddion medrus.
Mae Kepak, sydd ag 830 o weithwyr yn y Cwmni yn St Merryn Merthyr, eisoes wedi cofrestri 50 aelod o staff ar Raglen Prentisiaeth Llywodraeth Cymru er mwyn uwchsgilio a datblygu ei gweithlu, gyda mwy yn cael eu cofresti bob mis.
Mae pob recriwt newydd i’r busnes yn mynd trwy raglen hyfforddi ac asesu 12 wythnos sy’n arwain yn ddi-dor at brentisiaethau.
Rhaid i staff sy’n cael eu recriwtio yn yr adrannau cigyddiaeth cig oen ac eidion gwblhau o leiaf saith tasg sgiliau cyllell yn llwyddiannus yn ystod y rhaglen hyfforddi ac mae eu hasesiadau cymhwysedd yn arwain ymlaen i brentisiaeth, a fydd yn cynnwys 23 tasg bellach dros 15 mis.
Gan nad oes gan y mwyafrif o recriwtiaid newydd unrhyw sgiliau cigyddiaeth flaenorol, maent yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi gan hyfforddwyr a ‘chyfaill’’ mewn pedair adran – lladd, cigyddiaeth cig eidion ac oen a manwerthu.
Dywedodd John Eagle, cydlynydd hyfforddiant Kepak, fod y cwmni’n datblygu glasbrint hyfforddi yn St Merryn a fydd yn cael ei ddefnyddio fel templed ar gyfer ei lleoliadau eraill.
Mae John Eagle wedi gweithio’n agos gyda Chris Jones, pennaeth uned busnes bwyd a diod Hyfforddiant Cambrian, i deilwra llwybrau prentisiaeth i ddiwallu anghenion penodol Kepak.
“Gyda’n gilydd rydym wedi datblygu prentisiaethau wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol adrannau yn ffatri St Merryn, gan ymgorffori gweithdrefnau gweithredu safonol y cwmni,” meddai Mr Jones. “Mae’n ffordd wych i Kepak ddatblygu gweithlu aml-fedrus” mewn sgiliau eang.
Dywedodd Mr Eagle fod y rhaglen hyfforddi 12 wythnos yn cyd-fynd yn dda â’r prentisiaethau a ddarperir gan Hyfforddiant Cambrian. “Rydym wedi addasu’r llwybrau dysgu sydd wedi’u mapio allan yn y meini prawf prentisiaeth i gyd-fynd ag anghenion gweithredol Kepak,” esboniodd.
“Rwy’n credu ein bod wedi datblygu templed fframwaith sy’n hyfyw iawn. Mae gennym weithlu mawr ar y safle hwn ac mae cyfleoedd datblygu gyrfa ragorol yn Kepak.
“Mae prentisiaid yn derbyn hyfforddiant ymarferol a damcaniaethol, gan gael cyfle i ddatblygu eu harbenigedd, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd gwaith cefnogol.
“Mae cyflogi prentisiaid â chefndiroedd a galluoedd amrywiol yn ehangu ein cronfa dalent ac yn dod â syniadau newydd i’r grŵp.”
Un o’r pedwar hyfforddai cyntaf i symud ymlaen o’r rhaglen hyfforddi i brentisiaeth yw Gaina Dobrin, 27, Rwmania a symudodd i Gymru fis Rhagfyr diwethaf i chwilio am waith â chyflog da.
Er gwaethaf y ffaith ei fod wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ledled Ewrop o’r blaen, mae wedi dysgu sgiliau cigyddiaeth yn gyflym yn yr adran cigydda cig oen o dan arweiniad yr hyfforddwr Laurence Murphy.
Fe wnaeth ffrind a oedd eisoes yn gweithio yn ffatri St Merryn ei annog i ymgeisio am swydd ac nid yw yn difaru symud i Gymru. “Rwy’n mwynhau’r swydd ac wedi cael fy nghroesawu’n fawr gan y bobl gyfeillgar rwy’n gweithio gyda nhw sydd wedi fy helpu,” meddai Gaina.
“Rydw i eisiau aros yn gweithio yma yng Nghymru, dysgu sgiliau newydd ac ennill arian i mi fy hun a fy nhad gartref yn Rwmania.”
Nod tymor hir Kepak yw cynnig fframwaith prentisiaeth i’w holl staff ym Merthyr Tudful iddynt gyflawni eu huchelgeisiau.
Mae Hyfforddiant Cambrian yn cyflwyno prentisiaethau ar lefelau 2, 3 a 4 mewn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod, Sgiliau’r Diwydiant Bwyd, Rheoli Bwyd, Arwain Tîm Bwyd a Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.