Cafodd dau fusnes yn Ne Cymru lwyddiant dwbl mewn cinio gwobrwyo blynyddol gan ddarparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru.
Casglodd y Celtic Collection, grŵp o frandiau busnes a hamdden gan gynnwys Gwesty Hamdden y Celtic Manor eiconig yng Nghasnewydd, a’r Green Giraffe Nursery yng Nghaerdydd ddwy wobr yr un.
Yn ogystal ag ennill gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, mae Kieran Ray, un o weithwyr y Celtic Collection, sy’n gweithio yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor yn dathlu cael ei enwi’n Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian.
Dywedodd John Eagle, Rheolwr Datblygu Dysgu yn y Celtic Collection: “Rydym yn falch iawn o ennill y wobr hon a chael ein cydnabod am ddatblygiad ein pobl. Mae prentisiaethau yn gonglfaen i’n gweithlu a’n neges yw: dewch i ymuno â ni, beth bynnag fo’ch cefndir, a gallwch ddatblygu gyrfa mewn lletygarwch sydd â’r potensial i fynd â chi o gwmpas y byd.”
Enwyd Green Giraffe Nursery yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn a’i gweithiwr Laura Harding oedd cyd-enillydd gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn gyda Jan Gric o Nazareth House, Caerdydd.
“Mae’r gwobrau hyn yn gydnabyddiaeth wych o’n buddsoddiad yn ein pobl,” meddai Andrea McCormack, Cyfarwyddwr Green Giraffe Nursery. “Mae’n anrhydedd mawr ac rydym yn gobeithio y bydd cael ein cydnabod fel Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yn ein helpu i ddenu mwy o brentisiaid.”
Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyflogwyr a dysgwyr o bob rhan o Gymru sydd wedi rhagori yn ei rhaglenni prentisiaeth a ddarperir gan Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, a’i his-gontractwyr.
Cystadlodd 27 o unigolion am wobrau a drefnwyd gan ddarparwr blaenllaw o brentisiaethau yn sector lletygarwch Cymru a gynhaliwyd yn y Metropole Hotel & Spa, Llandrindod.
Roedd hefyd yna gyd-enillwyr ar gyfer gwobr Prentis Rhagorol y Flwyddyn, a enillodd gan Stewart Wooles o ESS Compass Group, Crucywel, a Sam Hoyland, sy’n gweithio i JNP Legal, Merthyr Tudful.
Cafodd Anna Tommis, sy’n gweithio i Stenaline, Caergybi, ei henwi’n Brentis Uwch y Flwyddyn, ac enwyd Catherine Isaac, sy’n gweithio i Hyfforddiant Cambrian a’i bwyty gydag ystafelloedd, y Trewythen, yn Llysgennad Prentis Cymraeg y Flwyddyn.
Enillodd Fleetsauce wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn, ac enillodd Puffin Produce Ltd o Hwlffordd wobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
Dywedodd Cadeirydd Gweithredol Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Arwyn Watkins, OBE: “Fel rhywun a ddechreuodd ar eu gyrfa fel prentis yn 16 oed, gwn yn rhy dda y gwahaniaeth y gall cyfle dysgu galwedigaethol ymarferol ei wneud i ragolygon gyrfa unigolyn. Mae’n sylfaen i fyd gwaith a llwyddiant.
“Mae’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru yn aml yn cael ei hystyried fel y rhaglen datblygiad proffesiynol mwyaf parhaus i’r gweithlu. Rydym yn ffodus iawn o gael cefnogaeth yr holl bleidiau gwleidyddol sy’n cydnabod pwysigrwydd cefnogi’r rhaglen hon ac rwy’n falch iawn o’r timau sy’n darparu’r rhaglen ledled Cymru mewn amrywiaeth o sectorau.”
Roedd hefyd yn canmol cyflogwyr sy’n cefnogi prentisiaethau. “Yn wahanol i unrhyw raglen arall o ddysgu proffesiynol, mae prentis yn gofyn am gytundeb cyflogaeth,” meddai. “Heddiw yng Nghymru, mae llai na 25% o gyflogwyr yn galluogi eu gweithwyr i ymgymryd â rhaglen brentisiaeth, felly gadewch i ni ddathlu’r rhai sy’n ymddiried ynom i’w helpu i dyfu a datblygu eu gweithlu.”
Llongyfarchodd Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr, yr holl ennillwyr a’r unigolion arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol a oedd, fe dywedodd, yn haeddu’r cydnabyddiaeth ar gyfer eu hymroddiad a’u hymrwymiad I yrru’r economi yn ei blaen a chefnogi’r rhaglen brentisiaethau yma yng Nghymru.
“Roedd y seremoni wobrwyo yn gyfnod o ddathlu, nid yn unig i’r prentisiaid a’r cyflogwyr eu hunain ond i bawb sydd wedi cael y fraint o fod yn rhan o’u taith.”
Yr unigolion arall a gyarhaedodd y rownd derfynnol oedd: Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Robert Stephens, ESS Compass, Crucywel; Prentis y Flwyddyn, Keri-Ann Evans, Bluestone, Narberth a Eveline Maria Meerdink, Robinsons, Conwy; Prentis Uwch y Flwyddyn, Tina Barry, Sirius Skills Consulting Ltd, Mountain Ash.
Yr unigolion arall a gyarhaedodd y rownd derfynnol Prentis Rhagorol y Flwyddyn oedd: Anne Lucas, Bluebird Home Care, Cowbridge; Andrew John Ogborne, Ogborne to Drive, Llanelli; Rajani Gurung, Woodside Care Home, Port Talbot; Ethan Wodecki, Vale Resort, Hensol; Mike Evans, Sirius Skills, Mountain Ash; Dobromila Illieva, Trefeddian Hotel, Aberdovey; Adri Razumnova, Celtic Collection’s The Parkgate Hotel, Cardiff and Emma Purcell, Little Red Berries Day Nursery, Cwmbran.
Y gwmnïoedd arall a gyarhaedodd y rownd derfynnol Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Kings Arms, Caerdydd; Crown Inn a Coffi Fach, Pen-y-bont ar Ogwr; Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, Puffin Produce Ltd, Hwlffordd a Nazareth House; Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, Vale Resort, Hensol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Collingridge, Pennaeth Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, Cynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus ar Ffôn: 01686 650818.