Mae’r Diwydiant Lletygarwch yn enfawr dros y byd ac yn arbennig fan hyn yng Nghymru. Cynigia ystod eang o yrfaoedd o brif gogydd, barman, i weithio mewn caffi. Mae’r diwydiant yn cynnwys gwestai, tai bwyta, caffis, canolfannau bwyd cyflym, tafarndai a chlybiau i enwi dim ond rhai ohonynt.

Yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, gallwn gynnig prentisiaethau lletygarwch ac arlwyo i weddu i bob maes o’r diwydiant; o lefel sylfaen i lefel brentisiaeth ar draws Cymru. Gall dysgu trwy brentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau ymarferol sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Cyflwynir hyfforddiant yn y diwydiant Lletygarwch mewn ystod eang o ffurfiau. Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau’n cynnig fframwaith syml a rhesymol sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau’r dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu.

Ei nod yw rhoi cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gydag Edexcel a’r BIIAB am gyflwyno hyfforddiant mewn Lletygarwch.

Cyflogwyr y gweithiwn gyda nhw;
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr ledled Cymru yn y Diwydiant Lletygarwch ac rydym yn parhau i rwydweithio gyda chyflogwyr sy’n ystyried cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant. Peidiwch â chymryd ein gair amdano yn unig, gweld beth mae ein cyflogwyr yn ei ddweud amdanom ni >

Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

Cymwysterau Prentisiaeth Lletygarwch ar gael yng Nghymru;

  • Gwasanaethau Lletygarwch Lefel 2 – gan gynnwys: Gwasanaethau Cegin, Gwasanaethau Diodydd, Gwasanaethau Bwyd a Diod, Cadw tŷ 
  • Cynhyrchu Bwyd a Choginio Lefel 2 
  • Coginio Proffesiynol Lefel 2 
  • Coginio Proffesiynol Lefel 3 
  • Gwasanaethau Cymorth a Glanhau Lefel 2 
  • Gwasanaethau Lletygarwch Trwyddedig Lefel 2
  • Arweinyddiaeth a Goruchwyliaeth Lletygarwch Lefel 3 
  • Rheolaeth Lletygarwch Lefel 4 

Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.

Eisiau dysgu yn Gymraeg? Gallwn ddarparu pob rhaglen brentisiaeth yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.

Cyllid Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid, gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.