Yma yn Hyfforddiant Cambrian rydym yn angerddol am letygarwch. Rydym yn angerddol am y staff sy’n gweithio ynddo ac rydym yn angerddol am yr hyn y mae’n ei gynrychioli: dod at ein gilydd.
Mae gyrfa mewn lletygarwch yn fwy na swydd, mae’n gymuned o unigolion cyfeillgar, bywiog sy’n mwynhau gwneud eraill yn hapus.
Mae manteision bod mewn lletygarwch yn ddiddiwedd: mae’n hwyl ac yn actif, lle nad oes dau ddiwrnod byth yr un fath, mae’n gymdeithasol fel y gallwch feithrin perthnasoedd ag aelodau’r tîm a chwsmeriaid, yn ogystal ag opsiynau shifft hyblyg i weithio o amgylch eich bywyd prysur. A hyn oll wrth ennill sgiliau y gellir eu cymhwyso i amrywiaeth o rolau, unrhyw le yn y byd! Yn sicr nid yw’n swydd 9-5.
Dyma rai o fanteision niferus gyrfa yn y diwydiant anhygoel hwn. Dyma pam rydym wedi bod yn falch o gefnogi lletygarwch ers cymaint o flynyddoedd, gyda Hyfforddiant Cambrian yn un o’r darparwyr prentisiaethau lletygarwch mwyaf yng Nghymru gyfan; gyda dros 600 o brentisiaid presennol (Awst 22).
Mae bod yn brentis lletygarwch gyda ni yn golygu cyfle mewn gyrfa o’ch dewis, gan ennill profiad, gwybodaeth a sgiliau amhrisiadwy, yn ogystal â chymhwyster achrededig. Hyn oll, gyda’r un buddion staff â phawb arall, tra’n ennill cyflog sydd fwy na thebyg yn fwy nag yr ydych yn ei feddwl!
“Trwy fy mhrentisiaeth, rwyf wedi cael dyrchafiad ar ôl dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i symud ymlaen yn y busnes. Rwyf nawr yn hyfforddi aelodau iau’r tîm i lenwi fy hen swydd ac yna’n edrych i gymryd drosodd fy rôl, fel y gallaf barhau i symud ymlaen trwy’r rhengoedd a gwneud newid gyrfa yn ganlyniad perffaith. Mae’r hyfforddiant un i un wedi cryfhau a helpu fy hyder y tu mewn a’r tu allan i’r gegin. Ni fyddwn erioed wedi meddwl, cyn dechrau’r brentisiaeth, y byddwn yn coginio i gannoedd o bobl heb ail feddwl.”
Alastair Roberts-Jones, Prentis Cogydd, Grŵp Compass.
Nid oes rhaid i chi ychwaith edrych yn bell i ddod o hyd i amrywiaeth o gyflogwyr sy’n ymwneud â lletygarwch sy’n cytuno bod ein rhaglenni prentisiaeth arbenigol wedi gwella eu busnes – gan uwchsgilio staff i greu gweithlu llawn cymhelliant a gwybodus. Mae ein prentisiaethau seiliedig ar waith yn golygu y gallwch gynyddu ymgysylltiad staff a lleihau costau recriwtio ac yn ei dro gyflawni eich nodau busnes.
“Mae prentisiaethau yn ein galluogi i ddatblygu unigolion ar hyd y llwybr y mae cyrchfan pum seren ei angen. Maen nhw (Cambrian Training) yn eithriadol o gefnogol i’r pwynt lle mae’n anodd i’n staff weld y gwahaniaeth rhwng y ddau gwmni.”
Tracey Israel, Pennaeth Dysgu a Datblygu, Gwesty’r Celtic Manor.
Mae ein hymrwymiad i’r diwydiant hwn hefyd yn cael ei ddangos trwy ein cefnogaeth i elusennau megis Hospitality Action, sy’n gweithio’n ddiflino i roi cymorth, arweiniad a chyngor i bawb sy’n gweithio ym maes lletygarwch. Yn ogystal, trwy ein cysylltiadau â’r Gymdeithas Goginio, yr ydym yn cynnig aelodaeth am ddim i’n holl brentisiaid lletygarwch. Rydym hefyd wedi bod yn cymryd rhan ers tro mewn amrywiaeth o gystadlaethau perthnasol fel World Skills, er mwyn arddangos y gorau yn y byd busnes!
Gwyddom fod bod mewn lletygarwch yn fwy na swydd yn unig. Gwnewch gais i un o’n rolau prentis heddiw i weld a ydych chi’n cytuno. ⇒ https://www.cambriantraining.com/wp/en/jobs/