James Henshaw o Siop Fferm Taylor’s yn Lathom, Sir Gaerhirfryn oedd enillydd teitl CIGYDD IFANC PREMIER 2016 ar ôl curo saith o’r prentisiaid cigyddiaeth gorau yn rownd derfynol CYSTADLEUAETH CIGYDD IFANC PREMIER a drefnwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd (NFMFT) yn FOODEX yn y Ganolfan Arddangosfa Genedlaethol ym Mirmingham ddoe.
Cigydd Ifanc Premier 2016 gyda Llywydd NFMFT a Meistr Cwmni Anrhydeddus y Cigyddion Patricia Dart
Disgrifiwyd y gystadleuaeth pum awr, chwe chategori fel y gystadleuaeth sgiliau mwyaf anodd sydd ar gael i brentisiaid cigyddiaeth y DU ac roedd wyth o brentisiaid gorau’r genedl yn arddangos eu sgiliau â chigyddiaeth sêm a chreu arddangosfeydd Parod i’w Fwyta, Rhost wedi’i Stwffio, Barbeciw a chynhyrchion
Parod i’r gegin.
Roedd pedair dlws ar ddeg ar gael i’r cystadleuwyr a chawsant eu hasesu ar sail sgil crefft, arloesi ac ymarferion gweithio cadarn gan arbenigwyr y diwydiant Danny Upson o Dalziel, Rheolwr Cynnyrch Porc AHDB, Prif Weithredwr y Sefydliad Cig a Barnwr Cigyddiaeth Genedlaethol Keith Fisher a Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol y DU, ymgynghorydd y diwydiant a chynrychiolydd RAPS (DU) Viv Harvey.
Llywydd NFMFT Jim Sperring gyda (o’r chwith i’r dde) Harry Smith, Cigydd Ifanc Premier 2016 James Henshaw, Erin Conroy, Stuart Rankin, James Gracey, Elsie Yardley, Enillydd yr Ail Wobr 2016 Dylan Gillespie a James Taylor.
Mae James yn ddeunaw oed ac yn brentis lefel dau Meat Ipswich a dangosodd y cystadleuydd ieuengaf ddominyddiaeth trwy ENNILL tri o’ch chwe chategori sef Parod i’w Fwyta, Barbeciw ac Arddangosfa, yn ogystal â chael CANMOLIAETH UCHEL am Gigyddiaeth Sêm.
ENILLYDD AIL WOBR CIP 2016 oedd enillydd Medal Efydd World Skills Cigyddiaeth 2015 Dylan Gillespie, ugain oed, sy’n gweithio yn Clogher Valley Meats yn Tyrone, Gogledd Iwerddon. Enillodd yr ail wobr trwy ENNILL y categori Parod i’r Gegin a chael CANMOLIAETH UCHEL yn y categori Rhost wedi’i Stwffio.
Hefyd yn ENNILL ar y diwrnod am ei Gigyddiaeth Sêm ac yn cael CANMOLIAETH UCHEL am ei arddangosfa Barbeciw roedd Harry Smith, myfyriwr arlwyo deunaw oed o Stratford upon Avon o ‘Chefs Butcher’ Aubrey Allen sy’n gweithio yn eu siop yn Warwick Road, Leamington Spa.
Prentis arall Lefel Dau Meat Ipswich a oedd hefyd yn dathlu yn Siop Cigydd y Flwyddyn 2015 Meat Trades Journal (MTJ), Simpsons of Heckington, Swydd Lincoln oedd James Taylor, ugain oed, a ENILLODD y categori Rhost wedi’i Stwffio a chafodd GANMOLIAETH UCHEL am ei gynnyrch Parod i’w Fwyta. Mae gan James FDQ Lefel Dau mewn Cig a Dofednod a Diogelwch Bwyd yn ogystal â Lefel Tri mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd (arlwyo) ac ar hyn o bryd mae’n astudio Lefel Tri mewn Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod. Fel ei fos, roedd James ei hun yn rownd derfynol MTJ yng nghystadleuaeth Cigydd Ifanc MTJ fis Tachwedd diwethaf.
Yn dychwelyd i’r Alban â gwen roedd Erin Conroy o Siop Fferm Falleninch yn Stirling. Yn dair ar hugain oed mae hi’n Brentis Cig a Dofednod Lefel Tri Scottish Training sy’n astudio Iechyd a Diogelwch Amgylcheddol. Cafodd Erin GANMOLIAETH UCHEL yn y categori Arddangosfa.
Un arall a oedd yn hapus oedd James Gracey o Quails Butchers o Dromore a gafodd GANMOLIAETH UCHEL yn y categori Parod i’r Gegin. Mae James yn dair ar hugain oed ac yn brentis Sgiliau Diwydiant Bwyd Lefel Tri Southern Regional College sydd, ar ôl dwy flynedd yn unig yn y diwydiant, yn meddu ar Gigyddiaeth a Hylendid Lefel Dau ac yn astudio ar gyfer Iechyd a Hylendid Lefel Pedwar ar hyn o bryd.
Hefyd ymhlith y RHAI A GYRHAEDDODD Y ROWND DERFYNOL a gafodd dystysgrifau a medalau roedd Stuart Rankin, un ar hugain oed, prentis Lefel Tri Cig a Dofednod Scottish Training a gyrhaeddodd rownd derfynol Scottish Meat Skills 2015, sy’n gweithio gydag Erin yn Siop Fferm Falleninch. Ac Elsie Yardley o Siop Fferm Priors Hall ger Dunmow yn Essex, dwy ar hugain oed, myfyriwr Lefel Dau Prosesu Cig a Dofednod Meat Ipswich, Diogelwch Bwyd mewn Manwerthu Lefel Dau, Lefel Dau HACCP a myfyriwr Hylendid Bwyd Lefel Tri.
Yn siarad yn y cyflwyniadau, dywedodd Llywydd NFMFT a Chigydd yn Ne Llundain, JIM SPERRING “Mae’n wych gweld pobl ifanc â’r mathau o sgiliau sydd ar ddangos yma heddiw. Marciau llawn i bob un ohonynt, maent yn gredyd i’r fasnach a dwi’n si?r bod dyfodol mawr o’u blaenau”!
Yn cyflwyno’r cystadleuwyr â thystysgrifau, medalau a thlysau gyda Llywydd NFMFT Jim Sperring ar ran y noddwyd roedd Keith Fisher Rheolwr Cynnyrch Cig Porc AHDB, Mike Richardson, Rheolwr Sector Manwerthu Annibynnol Cig Eidion a Chig Oen AHDB, Terry Jones ar ran Hyfforddiant Cambrian, Bill Jermey, Cadeirydd y Sefydliad Cig, Ian Mackway, Rheolwr Cyffredinol RAPS (DU), Gordon King ar ran Quality Meat Scotland, Andy Lea ar ran Weddel Swift a’r Meistr Patricia Dart ar ran Cwmni Anrhydeddus y Cigyddion.
Cafodd Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Premier 2015 ei threfnu gan NFMFT a’i gynnal gan William Reed Media yn arddangosfa Foodex yn y Ganolfan Arddangosfa Genedlaethol ym Mirmingham Swydd Warwig.