Mae James Gracey, ugain mlwydd oed, o Quails of Dromore yn Sir Down wedi sgorio’r nifer fwyaf o bwyntiau yn rhagbrawf Gogledd Iwerddon o her gigyddiaeth WorldSkills.
Wrth sôn am ei fuddugoliaeth, dywedodd y cigydd ifanc y byddai hyn yn ei helpu i ddod yn fwy hyderus. “Mae’n dangos fy mod wedi dysgu sgiliau newydd ac yn gallu dod â sgiliau newydd i’r gweithle, ac mae’n profi fy mod yn gwneud cynnydd,” dywedodd wrth Meat Trades Journal.
Dywedodd Gracey fod y gystadleuaeth yn anodd, ond gwnaeth ei waith caled talu ar ei ganfed. “Gwnes i gymaint o ymdrech ag oedd yn bosibl a cheisio dangos peth cystal ag y gallwn.”
Yn ogystal â chymryd rhan yng nghystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills y llynedd, bu hefyd yn cystadlu yng Ngwobrau Cigydd Ifanc Premier ym mis Ebrill.
Wrth baratoi ar gyfer y rownd derfynol yn ddiweddarach eleni, dywedodd Gracey y byddai’n “rhoi fy mhen i lawr” ac yn gwneud y gwaith.
Dylan Gillespie, hefyd yn 20 mlwydd oed, o Clogher Valley Meats yn Sir Tyrone, enillodd yr ail wobr.
Bydd y chwe chigydd sy’n ennill y nifer fwyaf o bwyntiau allan o ragbrofion Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn cymryd rhan yn y rownd derfynol yn NEC Birmingham ym mis Tachwedd.
Yr ymgynghorydd cig Viv Harvey a chadeirydd cenedlaethol Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd (NFMFT) Roger Kelsey oedd beirniaid y gystadleuaeth. Teithiodd tîm hyfforddiant Cambrian i Iwerddon trwy Fferis Stenline o Gaergybi i Ddulyn.
Cafodd cystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills ei threfnu gan Gwmni Hyfforddiant Cambria, ac ymhlith y partneriaid nawdd mae NFMFT, the Institute of Meat, Cyngor Addysg a Hyfforddiant Bwyd a Diod (ftc), Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales a Viv Harvey. Meat Trades Journal yw’r partner cyfryngau unigryw.