Mae swyddog beics amlsgiliau ym menter gymdeithasol Antur Waunfawr wedi ennill dwy wobr yn seremoni wobrwyo flynyddol Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Mae Jack Williams, 24 oed, yn gallu troi ei law at dipyn o bopeth ac enillodd wobrau Prentis Sylfaen y Flwyddyn a Llysgennad Iaith Gymraeg y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Gwnaeth parodrwydd Jack i helpu ar draws y busnes creu argraff fawr ar feirniaid y gwobrau – mae’n rhannu ei amser rhwng y siop feics a helpu i gasglu dillad, dodrefn a deunyddiau i’w hailgylchu.
Mae hefyd yn weithiwr cymorth ac hyfforddwr i bobl ag anghenion ychwanegol, mae’n ymweld ag ysgolion i ddysgu myfyrwyr sut i reidio’n ddiogel a chynnal a chadw beic, ac ef yw’r pencampwr dim gwastraff y cwmni yn y gweithdy.
“Mae’n gwych i ennill y wobrau hon ac mae’n braf bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud gydag Antur Waunfawr yn cael ei gydnabod,” meddai Jack. “Nid dim ond i mi mae’r gwobrau hyn, ond i bawb sy’n gweithio yno.”
“Mae Antur Waunfawr wedi fy nghefnogi ac wedi fy helpu i wneud y brentisiaeth a mynd ar gyrsiau sydd wedi bod yn gwych. Mae gwneud prentisiaeth wrth weithio a chael fy nhalu yn llawer gwell i mi na bod mewn ystafell ddosbarth.
“Roedd gwneud y brentisiaeth yn Gymraeg a chyfathrebu yn fy iaith gyntaf gymaint yn haws i mi. Hoffwn weld mwy o bobl yn gwneud prentisiaethau Cymraeg neu ddwyieithog er mwyn i’r Gymraeg dyfu.
Yn ymroddgar i ddatblygu ei sgiliau, mae Jack wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen i Brentisiaeth mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy (yn Goruchwylio) yn ogystal â chwblhau nifer o gyrsiau hyfforddi mewnol yn ddwyieithog.
Mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn dyddiol yn y gwaith ac mae Jack yn hyrwyddo’r iaith lle bynnag bo modd. Mae’n ysgrifennu templedi ebost dwyieithog addysgiadol er mwyn cefnogi’r gweithdy prysur.
Meddai Tom Workman, uwch-swyddog beics Antur Waunfawr: “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Jack wedi rhoi llawer o syniadau gwych ar waith o ran y ffordd rydyn ni’n rhedeg y busnes a’n gweithgareddau o ddydd i ddydd yn y gweithdy.
“Mae ef wedi datblygu yn ei rôl fel pencamwr dim wastraff yn y gweithdy, gan ddefnyddio pob rhan y gellir ei harbed o hen feics a thorri’r gweddill i fyny’n ddarnau i’w hailgylchu. Mae’n aelod hanfodol o’r tîm yma yn Beics.”
Fe wnaeth Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, llongyfarch Jack a’r enillwyr eraill a phawb oedd yn y rownd derfynol. “Rydych wedi gweithio’n galed i gyrraedd lle rydych chi heddiw a gallwch fod yn falch o’r hyn rydych wedi’i gyflawni,” meddai.
“Gan fy mod i wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl fy hun, trwy ennill y gwobrau hyn, y gallaf i annog pobl ifanc eraill i siarad mwy am eu teimladau.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.