Mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaethau gofal statudol, preifat a gwirfoddol i bobl ar draws y DU yn nhri maes craidd iechyd, gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.

Mae angen cymorth ar rai pobl am amryw resymau a chyfnodau yn eu bywydau, i ddatblygu a chynnal eu hannibyniaeth, eu hurddas a’u rheolaeth. Darpar gofal cymdeithasol ystod gyfan o wasanaethau i gefnogi oedolion a phobl h?n. Mae’n ymwneud â gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy gyfrannu at eu hiechyd, eu hapusrwydd a’u lles.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Cyflwynir hyfforddiant yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol mewn ystod eang o ffurfiau. Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau’n darparu fframwaith syml a rhesymol sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu.

Ei nod yw rhoi cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant.

Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth >>

Cyllid Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid,  gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.

 

 

Cymwysterau prentisiaeth ar gael;

  • Gwaith Chwarae Lefel 3
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a 3
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 (Plant a Phobl Ifanc)
  • Dysgu a Datblygu Gofal Plant Lefel 2 a 3
  • Arweinyddiaeth mewn Gofal a Datblygiad Plant Lefel 5
  • Arweinyddiaeth ym maes Gofal Plant Lefel 5
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Lefel 3
  • Arweinyddiaeth ar Gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5
  • Arweinyddiaeth ar Gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5 (Plant a Phobl Ifanc)
  • Arweinyddiaeth ar Gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5 (Oedolion)
  • Rheolaeth Breswyl Oedolion Lefel 5
  • Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5

Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.

Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyflwynwn neu os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’n cymwysterau, mae croeso i chi gysylltu â’n partneriaid cyflwyno ar gyfer yr ardaloedd perthnasol yng Nghymru.