Hyrwyddo’r Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ein rhaglenni prentisiaeth.
Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd Cymraeg yn ein darpariaeth prentisiaeth ac yn ddiolchgar am eu buddsoddiad a’u cefnogaeth. Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi a dysgu yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli prentisiaid i ddefnyddio ac adeiladu ar eu sgiliau Cymraeg.
Gallwch ddarllen mwy am ei gwaith yma.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi ymrwymo i weithredi’r Gymraeg ac adolygir ein cynllun iaith Gymraeg yn flynyddol yn unol ag Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg. Rydym yn cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn bodloni anghenion dysgwyr a’u galluogi i ddefnyddio eu dewis iaith.
O letygarwch i reoli gwastraff, iechyd a gofal cymdeithasol i weinyddu busnes – rydym yn hapus ein bod yn gallu cynnig ein holl gymwysterau prentisiaeth seiliedig ar waith trwy gyfrwng y Gymraeg. You can see all the qualifications we deliver here.
Dewch i gwrdd â’n Swyddog y Gymraeg, Elen Rees.
Mae gennym Swyddog Iaith Gymraeg penodedig sy’n cydlynu ac yn cefnogi ein Swyddogion Hyfforddiant i hyrwyddo hyfforddiant ac asesu dwyieithog ar draws holl feysydd dysgu’r busnes.
E-bost: elen@cambriantraining.com Ffon: 01938578517
“Cymraeg yw fy iaith gyntaf a dyna beth rydw i’n mwynhau siarad gartref, yn y gwaith a gyda fy ffrindiau. Mae’n bwysig iawn bod cyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae bod yn llysgennad prentisiaethau yn fy ngalluogi i ddangos i brentisiaid eraill ei fod yn bosibl.”
Iestyn Morgan, Llysgennad Prentisiaethau’r Gymraeg
Roedd gallu gwneud ei brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i Iestyn, sydd wedi cwblhau ei holl addysg a hyfforddiant hyd yma yn ei iaith gyntaf.
Oherwydd ei angerdd dros y Gymraeg a phrentisiaethau, mae Iestyn wedi’i benodi’n llysgennad prentisiaethau’r Gymraeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein rhaglenni prentisiaeth neu’r cyfle i ddysgu’n ddwyieithog, cysylltwch â ni.