Mae LACA – The School Food People – yn lansio pedair prentisiaeth sy’n benodol i’r diwydiant a’r sector mewn partneriaeth â’r darparwyr hyfforddiant cenedlaethol HIT Training a Chwmni Hyfforddiant Cambrian.
Mae’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau rhwng 5 a 11 Chwefror ac mae LACA yn hapus iawn i lansio pedair prentisiaeth newydd a grëwyd ar gyfer y diwydiant arlwyo ysgolion yn y DU yn benodol. Gan weithio mewn partneriaeth â HIT Training yn Lloegr a Chwmni Hyfforddiant Cambrian yng Nghymru, bydd y pedair brentisiaeth yn cynnwys:
- Cynorthwyydd Arlwyo Ysgol Lefel 2
- Uwch Gogydd Cynhyrchu Lefel 3
- Rheolwr Lletygarwch Lefel 4
- Rheolwr Gweithrediadau Lefel 5
Y nodwedd unigryw sydd gan y prentisiaethau hyn yw eu bod yn gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a grëwyd gan weithwyr proffesiynol arlwyo a hyfforddi ysgolion er mwyn darparu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiad i’r rhai hynny yn y diwydiant amrywiol sy’n hanfodol i’w rôl wrth fwydo plant ysgol ein cenedl. Bydd creu’r cymwysterau pwrpasol hyn yn sicrhau bod y diwydiant arlwyo ysgolion yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi fel galwedigaeth broffesiynol.
Mae’r prentisiaethau hyn yn cwmpasu pob rôl yn y sector felly mae rhywbeth addas i bob gweithiwr sector. Mae’r bartneriaeth unigryw gyda HIT yn Lloegr a Hyfforddiant Cambrian yng Nghymru yn cynnig llwybr uniongyrchol i gyflogwyr a gweithwyr at gyngor a gwybodaeth benodol wedi’i deilwra ar sut i gael gafael ar gyllid priodol, y lefel brentisiaeth orau ar gyfer unigolyn a chyngor unigryw wedi’i deilwra i ddysgwyr.
Mae arlwyo ysgol yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth wedi’i deilwra i’w holl weithwyr. Mae’r prentisiaethau’n adeiladu ar y wybodaeth a’r dealltwriaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau allweddol i gyflwyno a ffurfioli’r dysgu ar gyfer dyfarniad prentisiaeth. Maent hefyd yn galluogi parhad o fewn y sector bwyd ysgol a throsglwyddo sgiliau yn ffurfiol ar gyfer parhad ar draws y sector lletygarwch ehangach.
Mae gan bob prentisiaeth daflen ffeithiau ar gael ar wefan LACA sy’n cynnig yr holl wybodaeth. Mae pob prentisiaeth fel arfer yn cymryd rhwng blwyddyn a 18 mis i’w chwblhau ac fe’i cwblheir yn y gweithle. Mae’r gofynion mynediad yn amrywio gyda chyngor ar gael i gefnogi dysgwyr i benderfynu ar eu llwybr mynediad gorau. Mae Asesiad Pwynt Diwedd yn arwain at ddyfarniad prentisiaeth ar y lefel berthnasol.
Anita Brown, Cadeirydd LACA:
“Rwy’n hapus iawn i allu lansio’r cyfleoedd cyffrous hyn ar gyfer hyfforddiant a datblygiad i’n cyd-weithwyr sy’n gweithio mewn rolau allweddol mewn ysgolion, tra’n bwydo ein pobl ifanc bob dydd. Mae gweithio yn y sector i ddarparu ciniawau ysgol iach a maethlon yn yrfa gwerth chweil, a gyfoethogir drwy ennill gwobr a gydnabyddir yn genedlaethol yn unig.”
Jill Whittake, OBE FCA, Cadeirydd Gweithredol HIT Training:
“Yn HIT Training, ein nod yw trawsnewid bywydau, siapio’r dyfodol ac ennill sgiliau bywyd hanfodol. Rydym yn hapus iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth â LACA a Hyfforddiant Cambrian fel rhan o’r fenter brentisiaeth gyffrous hon.”
Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cambrian Training:
“Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn hapus iawn i fod mewn partneriaeth â HIT Training a LACA i ddarparu prentisiaethau seiliedig ar waith i aelodau LACA yng Nghymru. Mae gweithio ym maes lletygarwch ac arlwyo yn rolau pwysig, ac rydym yn awyddus i gefnogi proffesiynoli’r diwydiant ar draws pob sector, gan weithio gyda’n cleientiaid cyflogwyr a’n cleientiaid dysgwyr ledled Cymru.”
Y Tri Sefydliad Partner
LACA – The School Food People – yw’r prif gyrff proffesiynol sy’n cynrychioli aelodau ar draws y sector bwyd ysgol, sy’n cynrychioli cyflenwyr ac arlwywyr y sector preifat a chyhoeddus i ysgolion ac academïau ledled y DU.
Gyda thua thair miliwn o giniawau yn cael eu gweini ym mhob diwrnod ysgol mewn 27,000 o ysgolion, rhwydwaith LACA yw’r darparwr bwyd ysgol mwyaf yn y wlad. Mae’r sefydliad yn un proffesiynol gydag aelodau sy’n cynrychioli mwy na 110,000 o aelodau staff.
Mae LACA yn cefnogi ei aelodaeth drwy gynnwys aelodau mewn rhwydwaith cenedlaethol gan greu cyfleoedd, digwyddiadau a gwasanaethau rhwydweithio sy’n helpu i ehangu addysg a datblygiad pobl sy’n gweithio yn y diwydiant.
Lansio pedair prentisiaeth sy’n benodol i’r diwydiant ac a grëwyd yn benodol yw’r enghraifft ddiweddaraf o ddatblygiadau i greu cyfleoedd i’n haelodau a chefnogi proffesiynoli’r sector ymhellach.
HIT Training
HIT Training yw’r darparwr hyfforddiant a phrentisiaethau arbenigol blaenllaw ar gyfer y diwydiannau lletygarwch, arlwyo a manwerthu yn y DU. Gan weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr y sector, rydym yn uwchsgilio gweithwyr, yn cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant, a galluogi arloesi wrth atgyfnerthu’r llinell waelod.
Cwmni Hyfforddiant Cambrian
Gyda dros 25 mlynedd o hanes, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw’r prif ddarparwr prentisiaethau seiliedig ar waith yng Nghymru ym maes lletygarwch ac arlwyo. Mae ein prentisiaethau arobryn yn cefnogi cyflogwyr i logi ac uwchsgilio staff yn llwyddiannus, gwella cymhelliant, cadw a chynhyrchiant, wrth helpu dysgwyr i gyflawni eu huchelgeisiau gyrfa.