Bydd helfa genedlaethol yn dechrau yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos nesaf i ddod o hyd i gigydd gorau’r DU, lle cynhelir dau ragbrawf o gystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK.
Lleoliad y gystadleuaeth ar ddydd Mawrth 5 Mehefin fydd y Southern Regional College yn Newry ar gyfer rhagbrofion Gogledd Iwerddon a fydd yn gweld chwe chigydd dawnus yn profi eu sgiliau i ddangos eu bod nhw ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill.
Yn cystadlu mae Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats, Clogher, Tyrone; Bryan McNamee o Newry, Swydd Down a Saulius Repecka, John Shortland pob un o’r Southern Regional College Portadown, Swydd Armagh.
Byddan nhw’n ceisio dilyn yn ôl traed James Taylor, o G.Simpson Butchers, Heckington,Swydd Lincoln, a enillodd y gystadleuaeth fis Tachwedd diwethaf.
Canolbwyntia’r gystadleuaeth ar yr holl sgiliau hanfodol sy’n ofynnol am yrfa lwyddiannus fel cigydd amlfedrus yn y diwydiant cynhyrchu bwyd.
Profir y cigyddion am eu sgiliau cyffredinol, eu harloesedd, creadigedd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull ac agwedd o droi at dasgau, defnydd o’r carcas a’r toriad gorau, gwastraff ac arfer gweithio diogel a hylan.
O dri rhagbrawf rhanbarthol neu rownd asesu ar draws y DU, bydd y chwe chigydd gyda’r sgorau uchaf yn cymhwyso am y rownd derfynol a gynhelir yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham o 15-17 Tachwedd. Mae’r rhagbrofion rhanbarthol eraill yng Ngholeg Prifysgol Birmingham ar 12 Mehefin a Choleg Dinas Glasgow ar 26 Mehefin.
Yn y rownd derfynol, bydd y chwe chigydd yn cwblhau pum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.
Trefnir y gystadleuaeth gigyddiaeth gan y darparwyr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, ac fe’i cefnogir gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Ymhlith y noddwyr mae’r sefydliad arobryn arbenigol FDQ, Y Sefydliad Cig, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales a Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd.
Er mwyn rhoi cynnig, ni ddylai’r cigyddion fod wedi cwblhau cymhwyster uwch na lefel 4 mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd neu gymhwyster cyfatebol. Rhaid iddynt feddu ar sgiliau cyllell a
chigyddiaeth sylfaenol ac eilaidd da, sy’n cynnwys cigyddiaeth ar hyd yr uniad, gydag o leiaf chwe mis o brofiad ymarferol, sgiliau clymu da, profiad o wneud selsig a’r gallu i weithio dan bwysau o flaen cynulleidfa.
Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau sydd wedi’u cynnwys yng Nghystadlaethau WorldSkills UK eleni, sydd wedi profi eu bod yn helpu pobl ifanc i fynd ymhellach, yn gynt yn eu hyfforddiant a’u gyrfaoedd. Dyluniwyd y cystadlaethau gan arbenigwyr y diwydiant ac maen nhw’n canolbwyntio ar safonau uchaf y DU ac yn rhyngwladol.
Cyflwynant fuddiannau nid yn unig i brentisiaid a myfyrwyr, ond i’w cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a cholegau hefyd. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau’n darparu’r sgiliau o safon fyd eang y mae eu hangen ar brentisiaid i helpu sefydliadau i gynnal eu hochr gystadleuol.
Cred dros 95% o gyn ymgeiswyr fod cymryd rhan yn y cystadlaethau wedi gwella’u sgiliau technegol a’u cyflogadwyedd.
Picture caption:
Cigyddion yn cystadlu yn rhagbrofion Gogledd Iwerddon y llynedd.