Disgwylir i gyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaeth, sgiliau a hyfforddiant cyflogaeth a ddarperir gan un o brif gwmnïau hyfforddi Cymru ’gael eu cydnabod y mis nesaf.
Mae Cwmni Hyfforddi Cambrian yn chwilio am gynigion ar gyfer ei Wobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ar Orffennaf 28.
Mae’r ceisiadau’n agor ar 7 Mehefin ac mae gan ymgeiswyr ar gyfer y gwobrau tan Orffennaf 9 i gyflwyno eu ceisiadau. Lawrlwythwch ffurflen gais yma: https://www.cambriantraining.com/wp/cy/awards-partnerships/
a’i dychwelyd at ceri.nicholls@cambriantraining.com
.
Mae Cwmni Hyfforddi Cambrian yn edrych ymlaen at gydnabod a gwobrwyo ei ddysgwyr a’i gyflogwyr llwyddiannus y mis nesaf.
Gofynnir am geisiadau ar gyfer y categorïau dyfarnu canlynol: Prentis Sylfaen, Prentis, Prentis Uwch, Unigolyn Eithriadol, Micro Gyflogwr (hyd at naw o weithwyr), Cyflogwr Bach (10 i 49 o weithwyr). Cyflogwr Canolig (50 i 249 o weithwyr), Cyflogwr Mawr (250 i 4,999 o weithwyr) a Macro Cyflogwr (5,000 a mwy o weithwyr).
Rhaid i gyflogwyr a dysgwyr ymwneud â rhaglenni a gyflwynir gan y cwmni i gael eu henwebu ar gyfer gwobrau. Gyda swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn, Llanelli a Llanelwedd, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau yn y gwaith ledled Cymru.
Bydd enillwyr pob categori yn cael cyfle i gael eu cyflwyno ar gyfer Gwobrau Prentisiaeth mawreddog Cymru, a drefnir ar y cyd gan Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn chwilio am gynigion gan ddysgwyr a busnesau sydd wedi dangos dull unigryw o hyfforddi a datblygu ac sydd wedi dangos menter, arloesedd a chreadigrwydd,” meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
“Rydym yn gweithio gyda nifer fawr o gyflogwyr a dysgwyr ysbrydoledig ledled Cymru sydd wedi gorfod ymgodymu ag amgylchiadau heriol iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd pandemig Covid-19.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddarllen eu straeon a’u cydnabod yn ein gwobrau.”
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.