Mae perchnogion Hen Dafarn Coets, o’r 18fed ganrif yng nghanol tref farchnad hanesyddol Machynlleth, yn buddsoddi mewn datblygu staff wrth i’r busnes ailennill ar ôl bandemig Covid-19.
Mae Charles Dark a’i wraig Sheila Simpson, Gwesty’r Wynnstay, yn hyderus bydd haf prysur o’u blaen nawr bod cyfyngiadau’r cyfnod clo yn llacio. Maent yn gobeithio bydd y ffyniant aros a ragwelir yn y DU, yn gyfle i’r busnes gynyddu fel ym mis Awst llynedd, pan brofwyd cynnydd o 40% o gymharu â 2019.
Mae’r cwpl wedi perchen Gwesty’r Wynnstay, sydd â 24 o ystafelloedd wely, dros ddau gyfnod amser ar wahân, yn ystod y 23 mlynedd diwethaf. Yr wythnos hon, gwelsant bedwar aelod, o’u 20 aelod o staff, yn cofrestru ar brentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng, i ddatblygu eu sgiliau a’u rolau yn y busnes.
Mae Rhian Davies a Grace Edge wedi cofrestru ar gyfer Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaethau Lletygarwch, bydd Adrian Avadani yn gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol ac mae ei chwaer, Irina, rheolwr y gwesty, yn dilyn Prentisiaeth Uwch Rheoli (Lefel 4). Disgwylir i Grace symud ymlaen i ddilyn Prentisiaeth Uwch Rheoli o fewn 18 mis.
“Rydyn ni bob amser wedi buddsoddi mewn hyfforddi ein staff ond mae’n bwysicach nag erioed oherwydd y broblem recriwtio genedlaethol yn y diwydiant lletygarwch, sy’n drueni oherwydd gall swydd lletygarwch arwain at yrfaoedd cynaliadwy o bwys a chyflog da” esboniodd Charles.”
“Rydym wedi ymrwymo i hyfforddi a datblygu ein staff, y mwyafrif ohonynt yn byw yn lleol.”
Dywedodd Chris Bason, pennaeth lletygarwch Cwmni Hyfforddi Cambrian: “Mae gennym berthynas hir sefydlog â Gwesty’r Wynnstay, ac yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae’n braf gweld y busnes yn cefnogi prentisiaethau.
“Mae Charles a Sheila bob amser eisiau’r gorau i’w tîm ddatblygu yn y Wynnstay sydd ar flaen y gad o ran lletygarwch ym Machynlleth.”
Yn ystod y gyfres o gyfnodau clo Covid-19, mae Charles a rhai o’i staff wedi bod yn brysur yn ailaddurno a gwella’r gwesty, gan gynnwys gosod toiledau llawr gwaelod newydd, cegin newydd i’r prif gogydd Gareth Johns a’i dîm a systemau oeri a larwm newydd.
Mae’r brif ystafell ar y llawr gwaelod hefyd wedi cael ei gweddnewid yn llwyr, a oedd yn golygu tynnu haenau o bapur wal a phaent yn rhychwantu 200 mlynedd. Costiodd y gwelliannau £100,000, gyda chefnogaeth rannol gan grant Llywodraeth Cymru.
Mae cefn y gwesty hefyd wedi’i drawsnewid gydag ardal eistedd a phwll newydd gyda ffynnon haearn nodweddiadol.
“Rydyn ni wedi buddsoddi i wella’r busnes ac mae gennym ni’r tîm cryfaf yn ei le rydyn ni erioed wedi’i gael,” meddai Charles. “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein cwsmeriaid a’n hymwelwyr lleol, y mwyafrif ohonynt yn dod o Loegr.
“Y prif beth y sylwais arno’r haf diwethaf, pan oeddem yn cael agor, oedd newid môr yn y math o ymwelwyr yr oeddem yn eu denu. Roedd eu gwariant ar gyfartaledd yn uwch na blynyddoedd blaenorol.
Mae’n cymryd amser i fynd ati pan fydd lletygarwch yn ailagor, ond rwy’n hyderus y bydd hi’n haf da iawn. Mae Machynlleth a Dyffryn Dyfi yn amlochrog, ac mae pobl yn dod yma am ystod eang o resymau. ”
Mae’r Wynnstay yn ganolfan ardderchog ar gyfer archwilio Machynlleth, Cwm Dyfi a’r ardal gyfagos sy’n rhan o Warchodfa Biosffer Dyfi UNESCO.
Mae Charles yn gyfarwyddwr MWT Cymru, sefydliad annibynnol sy’n cynrychioli mwy na 600 o fusnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Powys, Ceredigion a rhanbarth Meirionnydd yng Ngwynedd. Mae’r Wynnstay yn aelod o MWT Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Charles Dark, perchennog The Wynnstay, ar Ffôn: 01654 702941 neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus i MWT Cymru, ar Ffôn: 01686 650818.
Llun: Charles Dark, perchennog y Wynnstay, gyda’r prentisiaid Irina ac Adrian Avadani, Rhian Davies a Grace Edge.