Fel un o ddarparwyr hyfforddiant pennaf Cymru, gallwn bellach gynnig y cyfle gwych hwn i’r holl gyflogwyr ar draws Cymru i hysbysebu a hyrwyddo’u cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon ar-lein yn rhad ac AM DDIM ar y Gwasanaeth Paru Prentisiaeth.

Mae’r gwasanaeth paru ar wefan Gyrfa Cymru ac ar gael i filoedd o bobl ifanc o Fôn i Fynwy er mwyn chwilio a gwneud cais am swyddi y mae cyflogwyr yn eu creu er mwyn magu eu prentisiaid eu hunain.

Gallwn hysbysebu cyfleoedd am brentisiaeth ar draws y sectorau diwydiant canlynol; Lletygarwch, Cynhyrchu Bwyd a Diod, Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy ac Ailgylchu, Arwain Tîm, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Rheolaeth, Sgiliau Adwerthu, Gweinyddiaeth Fusnes a Gwasanaethau Cynllunio Ariannol, Dysgu a Datblygu Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dibynnu ar argaeledd.

Cynigia hyn y dewis i gyflogwyr hidlo ac adolygu ceisiadau’n hawdd a llunio rhestr fer a gwahodd ymgeiswyr am gyfweliad, y cyfan o ardal bersonol o’r system.

Fel eich Darparwr Hyfforddiant Prentisiaeth, byddwn hefyd yn gweithio gyda chi i sicrhau y gallwn wneud y mwyaf o effaith a chyrhaeddiad eich hysbyseb trwy gynnig y gwasanaethau ychwanegol canlynol os gofynnir amdanynt. Gan gynnwys postio eich swyddi gwag ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol.

Cyllid Nawr ar gael ar gyfer Llogi Prentis Newydd

Mae gennym newyddion cyffrous ein bod bellach yn gallu cynnig cymorth ariannol ychwanegol os ydych yn cyflogi prentis i’ch busnes. 

Mae’r cyllid cymhelliant yma yn cymhwyso i brentis cyflogwch i gymhwyster prentisiaeth gyda ni, a byddwch yn derbyn hyd at £2,000, yn dibynnu ar y meini prawf,

Er mwyn creu swydd gwag ar gyfer prentisiaeth, cysylltwch â ni…

Os ydych chi’n edrych i recriwtio prentis er mwyn gwella perfformiad eich busnes ac yr hoffech ddefnyddio’r Gwasanaeth Paru Prentisiaeth ar-lein AM DDIM, llenwch y ffurflen isod a’i dychwelyd i’r tîm,  trwy e-bost; marketing@cambriantraining.com

Gwasanaeth Paru Prentisiaeth – Ffurflen Disgrifiad Swydd 

 

Yn ogystal, os oes angen unrhyw arweiniad arnoch ar brentisiaethau yn y gweithle a sut gallwn helpu’ch busnes i gyflawni ei nodau, cysylltwch â’n tîm dros y ffôn; 01938 555893 neu drwy e-bost; info@cambriantraining.com