Mae’r prentis cogydd Thomas Martin wrth ei fodd yn coginio ac mae eisoes wedi cael profiad o weithio yn rhai o fwytai gorau Llundain.
Ac yntau’n 22 oed, mae’n gobeithio y bydd ei lwybr gyrfa’n ei arwain i wireddu ei uchelgais o agor bwyty yng Nghaerdydd i hyrwyddo cynhwysion gorau Cymru.
Ar ôl dilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol gyda’r darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mae’n bwriadu symud ymlaen i wneud Prentisiaeth y flwyddyn nesaf.
Yn gynharach eleni, gwobrwywyd ei angerdd a’i ymroddiad i ddysgu pan enwyd ef yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol Cwmni Hyfforddiant Cambrian a daeth yn agos at y brig yng ngornest Cogydd Ifanc Cymru.
Yn awr, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Ar hyn o bryd mae Thomas yn chef de partie yn yr Holm House Hotel, Penarth a bu’n gweithio yn y Manor Parc Country Hotel and Restaurant, Caerdydd, Chapel 1887, Caerdydd ac yn Stadiwm y Principality, Caerdydd fel aelod o dîm arlwyo gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr y llynedd.
Yn Llundain, cafodd brofiad o weithio yn Restaurant Gordon Ramsay, bwyty Michel Roux Junior Le Gavroche, Marcus Wareing at the Berkley, bwyty Nathan Outlaw yn y Capital a World’s End Market, Chelsea.
“Roedd yn brofiad gwych a phwy na fyddai’n manteisio ar y cyfle i weithio mewn tri bwyty â sêr Michelin yn 20 neu’n 21 oed?,” meddai. “Gwnaeth y profiad hwnnw newid fy nisgwyliadau o ’ngyrfa a gwneud y llwybr ro’n i am ei droedio yn gliriach o lawer.
“Fy uchelgais yw cael fy mwyty fy hunan yn Nghaerdydd yn hyrwyddo cynhwysion o Gymru. Rydw i am chwifio’r faner dros Gymru.”
Bwriad Thomas pan adawodd yr ysgol oedd mynd yn saer coed ond yna darganfu ei gariad at goginio. Mae’n dweud mai diolch i’w Brentisiaeth y cafodd yr hyder i fynd i weithio yn Llundain.
Wrth longyfarch Thomas ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.
“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.
“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.
Capsiwn llun:
Thomas Martin – gobeithio gwneud enw iddo’i hunan fel cogydd.
diwedd
Cewch wybod rhagor trwy gysylltu â Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818 neu 07779 785451.