I wneud 1 dorth
Cynhwysion
- 250gm Blawd bara cryf
- 1 llwy de o halen
- 1 bag bychan o furum sych, oddeutu 7 gram
- 4 llwy fwrdd o olew olewydd gwyryf pur
- 200ml o ddŵr
- 25g o halen môr man
- 1 sbrigyn o rosmari
- 25gm garlleg gwyllt wedi’i dorri
- 50gm winwnsyn coch wedi’I dorri
Dull
1. Rhowch y blawd, llwy de o halen, burum, un llwy fwrdd o olew’r olewydd mewn powlen fawr, cymysgwch gyda’i gilydd ac yna ychwanegwch y dŵr yn araf gan dylino gyda’ch llaw i ffurfio toes, yna ewch ymlaen i dylino am ryw 5 munud.
2. Ymestynnwch y toes gyda’r llaw, plygwch yr ochrau i mewn i’r canol, acailwnewch y broses rhyw bum gwaith.
3. Rhowch y toes ar arwyneb gwaith olewog a pharhau i dylino, ei roi’n ôl yn y bowlen, gorchuddio gyda chling ffilm a’i roi mewn lle cynnes i chwyddo tan iddo ddyblu mewn maint.
4. Ar ôl chwyddo, rhowch y toes ar hambwrdd pobi a’i wasgu i mewn i siâp crwn, ei gwastatáu ac yna’i adael i godi am 30 munud.
5. Wrth i’r bara godi, torrwch y winwns, garlleg a rhosmari’n fân, a’u gadael i chwysu’n ysgafn mewn sosban, eu gadael i oeri, yna ychwanegwch yolew olewydd sy’n weddill.
6. Rhowch y bara mewn ffwrn wedi’i gynhesu i 200C, tywalltwch yr olew olewydd, garlleg gwyllt, winwns, rhosmari dros y bara, ysgeintiwch gydahalen y môr a choginio am 20 munud.